Polisi Mynediad Plant i’r Pwll Nofio

Rhaid i oedolyn cyfrifol, un flwydd ar bymtheg o leiaf, fod gyda pob plentyn o dan 8 oed.

Bydd yr oedolyn cyfrifol yn mynd i mewn i’r dŵr gyda’r plant y mae’n gyfrifol amdanynt, yn cadw rheolaeth uniongyrchol ac yn gwylio’r plant yn barhaus a bod mewn cyswllt agos â’r rhai o’i blant sy’n wan neu’n methu â nofio. 

Mae’r tabl canlynol yn tynnu sylw at y mwyafrif o blant y gall un oedolyn fod yn gyfrifol amdanynt. 

 

Mynediad Cyffredinol – Nofio Cyhoeddus
0–3 BLWYDD Un person cyfrifol i un plentyn, yn ystod mynediad cyffredinol

4–7 BLWYDD Un person cyfrifol i ddau blentyn, yn ystod mynediad cyffredinol

 

Nofio strwythuredig i’r teulu 
0–3 + 4–7 BLWYDD Un person cyfrifol i dri phlentyn (un 0–3 oed a dau 4–7 oed), yn ystod sesiwn strwythuredig i’r teulu.
4–7 BLWYDD Un person cyfrifol i dri phlentyn, yn ystod sesiwn strwythuredig i’r teulu.
0–3  BLWYDD Un person cyfrifol i ddau blentyn, yn ystod sesiwn strwythuredig i’r teulu.
4–7 BLWYDD Un person cyfrifol i ddau blentyn, yn ystod mynediad cyffredinol 

 

Polisi Mynediad Plant i’r Ganolfan Hamdden 

Ni chaniateir i blant dan wyth mlwydd oed fynd i mewn i’r cyfleuster ond 

• Os oes oedolyn cyfrifol, un flwydd ar bymtheg neu hŷn, gyda hwy,  

• Mae’r oedolyn cyfrifol yn aros yn y cyfleuster drwy gydol yr amser y mae’r plentyn yn bresennol.  

 

Ystafelloedd Newid 

Caiff plant saith oed ac iau fynd i ystafelloedd newid y ”rhyw arall” os bydd oedolyn cyfrifol, un flwydd ar bymtheg neu hŷn, gyda hwy. Ni chaiff oedolion fynd i mewn i ystafelloedd newid ond rhai eu rhyw hwy eu hunain ac nid rhyw y plentyn. 

 

Ystafelloedd Ffitrwydd 

Rhaid i bob un sy’n defnyddio Ystafelloedd Ffitrwydd Hamdden Sir Benfro gwblhau proses sefydlu. 

Yr oedran lleiaf ar gyfer mynediad heb oruchwyliaeth i unrhyw rai o Ystafelloedd Ffitrwydd Hamdden Sir Benfro yw tair blwydd ar ddeg. Yr oedran lleiaf ar gyfer sesiynau dan oruchwyliaeth yw un flwydd ar ddeg. 

Rhaid i gwsmeriaid dan dair blwydd ar ddeg gyflwyno ffurflen gydsynio wedi ei chwblhau gan riant neu ofalwr cyn cael mynd i mewn i sesiwn dan oruchwyliaeth yn yr ystafelloedd ffitrwydd.