Teitl: Cofrestru DefnyddiwrPolisi: Defnyddwyr Cofrestredig Hamdden Sir Benfro Rhaid i bob defnyddiwr sy’n dymuno cofrestru gyda Hamdden Sir Benfro lenwi ffurflen cofrestru defnyddiwr yn y lle cyntaf. Rhaid llenwi pob rhan o’r ffurflen yn llawn er mwyn i’r cofrestriad fod yn llwyddiannus. O lenwi’r ffurflen gofrestru, bydd manylion y defnyddiwr yn cael eu bwydo i mewn i system Gladstone MRM. Rhaid i fanylion pob defnyddiwr unigol gael eu hychwanegu atynt gan gofrestriad ffotograff (a gynhelir yn y dderbynfa). Diben hyn yw sicrhau bod y cardiau defnyddwyr a manylion y cyfrif yn cael eu defnyddio gan y defnyddiwr priodol. Mae cofrestriad ffotograff hefyd yn golygu bod modd adnabod defnyddwyr mewn achos o argyfwng. Er bod angen yr holl fanylion (gellir ychwanegu rhai yn nes ymlaen), mae’n rhaid llenwi’r manylion canlynol ar bob ffurflen gofrestru cyn y gall Gladstone brosesu’r cais:- Enw CyntafCyfenwDyddiad GeniCod Post (cartref)Teitl / RhywYdych chi’n ystyried bod gennych anabledd?EthnigrwyddYdych chi’n ystyried mai Cymraeg yw’ch iaith gyntaf?Unrhyw gyflyrau meddygol perthnasol?Llun Ni fydd defnyddwyr sy’n amharod i ddiwallu’r meini prawf uchod yn gymwys i gofrestru gyda Hamdden Sir Benfro. Gall Defnyddwyr Cofrestredig: - Gadw lle ymlaen llaw am weithgaredd / sesiwn / cyfleuster yn unol â’r polisi cadw lle.Bod yn gymwys i fynychu dosbarthiadau neu sesiynau iechyd a ffitrwyddCadw lle dros y ffônYmaelodi â’r Ganolfan HamddenTalu trwy Ddebyd Uniongyrchol am aelodaethDefnyddio’r cyfleusterau ffitrwydd o gwblhau sesiwn gynefinoMeddu ar gyfrif gyda Hamdden Sir BenfroBod yn gymwys am ffioedd amser tawel