DIWEDDARIAD I GWSMERIAID 17 TACHWEDD
Rydym wedi anfon yr e-bost i ailosod cyfrinair eto. Os cawsoch anawsterau wrth fewngofnodi i'r ap ddoe, bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair unwaith eto.
Ers hynny, mae diweddariad system wedi digwydd yn y cefndir; mae hyn wedi datrys y broblem i lawer o ddefnyddwyr, a dylai eich galluogi i gael mynediad at yr ap eto.
Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost, gwiriwch eich ffolder negeseuon di-werth (junk/spam).
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd, a diolchwn i chi am eich amynedd yn ystod y cyfnod hwn.