Ariennir y Fenter Nofio am Ddim Genedlaethol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru er mwyn helpu i hyrwyddo nofio fel camp gynhwysol a all helpu gydag amrywiaeth o gyflyrau iechyd y gallwn eu datblygu wrth fynd yn hŷn.
Mae Hamdden Sir Benfro yn cynnig y canlynol i bawb dros 60 oed sydd wedi'u cofrestru ac sy'n byw yn Sir Benfro:
- Sesiynau nofio am ddim bob dydd Llun drwy gydol y flwyddyn ym mhob un o Byllau Nofio Hamdden Sir Benfro.
- Sesiynau nofio am ddim i unrhyw un sy'n cael Gwarant Credyd Pensiwn (PCG).
- Prisiau rhatach ar gyfer Dosbarthiadau Nofio ac Aquatic i'r Cyhoedd dros 60 oed (nad ydynt yn cael PCG) o ddydd Mawrth i ddydd Sul.
- Aelodaeth Nofio i'r Cyhoedd am chwe mis am £45