Anabledd Actif (Cyfeillion Cadw’n Heini)
Beth ydyw?
Mae Anabledd Actif (Cyfeillion Cadw’n Heini) yn brosiect a arienniryn rhannol gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nod y prosiect yw cynyddu faint o weithgarwch corfforol y mae pobl ag anabledd dysgu a’u rhieni/gofalwyr a’u teuluoedd yn ei wneud.
I bwy mae e?
Mae’r cynllun wedi’i anelu at oedolion a phlant ag anableddau dysgu.
Beth sy’n cael ei gynnwys?
Rydym yn trefnu ystod eang o weithgareddau ar gyfer defnyddwyr ein gwasanaeth gan gynnwys:
- Sesiwn nofio gyfyngedig
- Campfa dan oruchwyliaeth
- Sesiwn galw heibio aml-chwaraeon (badminton, saethyddiaeth, bowlio, tennis bwrdd a cyrlio)
- Boccia
- Chwaraeon dŵr yr haf (ceufadu, padlfyrddio a syrffio)
Faint mae’n ei gostio?
Mae ffioedd cymryd rhan wedi’u gosod yn unol â ffioedd Hamdden Sir Benfro. Fodd bynnag, mae mwyafrif o ddefnyddwyr ein gwasanaeth yn gymwys ar gyfer aelodaeth Pasbort i Hamdden. Am ragor o fanylion, ewch i Aelodaeth a Ffioedd ar wefan Hamdden Sir Benfro. Yn ogystal, gall un gofalwr neu aelod o’r teulu sy’n dod gyda defnyddiwr gwasanaeth fynychu am ddim.
Cymuned Anabledd Actif (Cyfeillion Cadw’n Heini)
Rydym yn cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau lleol sy’n ein cefnogi i ddarparu’r cyfleoedd gorau i ddefnyddwyr ein gwasanaeth i wella eu llesiant corfforol a meddyliol. Mae ein gweithgareddau yn cynnig cyfle i wneud ymarfer corff mewn lleoliad hwyliog a diogel. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Value Independence, MenCap, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro, Ysgol Portfield, Maenordy Scolton a llawer o unigolion eraill sydd â diddordeb mewn helpu’r gymuned Anabledd Actif (Cyfeillion Cadw’n Heini).
Sut y gallaf gymryd rhan?
Os hoffech chi gael rhagor o fanylion neu fynd i unrhyw un o’n sesiynau, anfonwch neges e-bost atom:
[javascript protected email address]
Neu cliciwch ar y cod QR hwn i ymuno â’n grŵp Facebook preifat Anabledd Actif (Cyfeillion Cadw’n Heini) lle bydd diweddariadau wythnosol a’r holl newyddion yn cael eu postio.