> logo cyfaill cadw'n heini

Cyfaill Cadw'n Heini

Mae Cyfeillion Cadw'n Heini yn brosiect sy'n derbyn cyllid grant gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nod y prosiect yw cynyddu faint o weithgarwch corfforol y mae pobl ag anabledd dysgu a’u rhieni / gofalwyr yn cymryd rhan ynddo a chael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol a llesiant meddyliol.

Nid yw llawer o bobl ag anableddau yn cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, felly nod y prosiect hwn yw eu cynorthwyo i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a fydd yn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Bydd hefyd yn cynorthwyo rhieni a gofalwyr i gymryd rhan mewn mwy o weithgareddau ac felly, unwaith eto, bydd hyn yn gwella eu hiechyd corfforol a meddyliol. Bydd y prosiect yn sicrhau bod y gweithgareddau newydd yn cael eu hymgorffori o fewn prosiectau cynaliadwy yng nghymunedau pobl eu hun.

Ein hamcan yw cychwyn a chynorthwyo datblygiad y gweithgareddau corfforol sydd ar gael i'r grŵp targed yn y sir, a phennu cyfleoedd neu ddatblygiad grwpiau ymarfer corff dan do ac yn yr awyr agored ledled y sir. 

Erbyn diwedd y prosiect, byddwn wedi datblygu mwy o gyfleoedd i oedolion ag anabledd dysgu fod yn egnïol a chwrdd â’u cyfoedion mewn sesiynau diogel sydd wedi’u teilwra’n benodol. Datblygir rhwydwaith o leoliadau i gynorthwyo pobl i gael mynediad i gyfleoedd ymarfer corff ‘cyffredin’ o fewn cymunedau'r bobl eu hunain, a byddwn yn darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a chymorth i gyfoethogi a chefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion yn y dyfodol.

I gael gwybod mwy am y prosiect hwn, anfonwch e-bost at:

[javascript protected email address]