> Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS)

Rhaglen o weithgareddau wedi'u dylunio i'r rheiny nad ydynt yn egnïol ar hyn o bryd neu sy'n ymarfer corff llai na theirgwaith yr wythnos yw'r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Mae hefyd ar gyfer y rheiny sy'n dioddef un neu'n fwy o gyflyrau meddygol ysgafn i gymedrol, megis pwysedd gwaed uchel, arthritis, iselder a rheoli pwysau, neu sydd wedi'u nodi fel rhai sydd mewn perygl o ddatblygu'r cyflyrau hyn. (Bydd gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol ragor o wybodaeth.) Rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan y gweithwyr iechyd canlynol o’r GIG / Iechyd Cyhoeddus Cymru: meddyg teulu, nyrs practis, ffisiotherapydd neu nyrs arbenigol.

Mae'r cynllun yn cynnwys atgyfeiriad i ganolfan hamdden leol gan eich gweithiwr iechyd proffesiynol, sy'n credu y bydd ymarfer corff yn helpu i atal, rheoli a gwella'ch cyflwr.

Ar hyn o bryd, rydym yn cynnig sesiynau campfa a chylchedau wyneb yn wyneb ym mhob un o'n canolfannau hamdden ar draws y sir. Os bydd rhaid eu cau yn y dyfodol oherwydd y pandemig COVID-19, byddwn yn dychwelyd at gyflwyno’r sesiynau’n rhithwir.

Mae eich diogelwch yn hollbwysig i ni ac mae ein gweithwyr proffesiynol ymarfer corff yn parhau i ymarfer y mesurau hylendid a diogelwch llym sydd wedi’u cyflwyno yn nheulu cyfleusterau Hamdden Sir Benfro ers dechrau’r pandemig COVID-19.

Dyma rai o'r adborth rhagorol rydym wedi'i dderbyn: 

''Roedd y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff Cenedlaethol, wedi'i bersonoli oherwydd diwydrwydd a phryder Ceri, yn golygu fy mod wedi paratoi'n dda ar gyfer gosod fy nghlun gyntaf newydd, ac yn gallu adsefydlu'n gyflym yn dilyn y driniaeth. Roedd cael fy nghyflwyno i ymarfer corff posib yn wych i mi oherwydd rwyf wedi ei chael yn fwyfwy anodd cerdded wrth i'm osteoarthritis waethygu. Mae'r rhaglen wedi rhoi'r hyder, yr wybodaeth a'r sgiliau i mi ddefnyddio ymarfer corff fel offeryn i wella ansawdd fy mywyd yn ystod cyfnod heriol. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Ceri am fy nhywys ar y daith hon!''

“Ar 1 Ionawr 2019, gwnes i benderfynu bod angen i mi golli pwysau. Dywedodd fy meddyg teulu wrthyf am y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gan fy atgyfeirio i Ganolfan Hamdden Hwlffordd. A bod yn onest, roeddwn yn nerfus am y peth oherwydd roedd gennyf olwg bendant o bobl sy'n mynd i'r gampfa. Mae'n bleser gennyf ddweud yr oeddwn yn anghywir am hynny!  Roedd yna bobl o feintiau gwahanol, lefelau ffitrwydd gwahanol a phwysau gwahanol yn ymarfer corff yno. Yn dilyn fy sesiwn gynefino, gwnaethom ddechrau gydag ymarferion corff cardio a defnyddio'r TRX, y peiriant rhedeg a'r beic ynghyd â chyrcydu. Roedd yn wych ac, ar ôl fy nhro cyntaf yn y gampfa, roeddwn yn dwlu arno! Ar ôl hynny, roeddwn i’n mynd ddwywaith yr wythnos, yn bennaf pan oedd Melissa yno oherwydd, os oedd gennyf unrhyw gwestiynau neu bryderon, byddai hi'n fwy na pharod i'w hateb a'u datrys. Yn ystod fy amser yn y gampfa, es i lawr i 23 stôn. Drwy fwyta'n dda, gan ddefnyddio'r wybodaeth a'r cyngor y gwnaeth Melissa a'r rhaglen atgyfeirio at ymarfer corff eu rhoi i mi, gwnes i newid fy neiet i'm helpu i golli pwysau, gan wneud dewisiadau bywyd gwych. Heblaw am Melissa a'r gampfa, nid wyf yn meddwl y byddwn lle'r ydw i nawr, sef 17.6 stôn gyda rhagor i'w golli! Rwy'n treulio oriau hir yn eistedd ac mae'r cynllun atgyfeirio wedi'm dysgu sut i fod yn actif ac yn fwy heini. Byddwn yn argymell y cynllun hwn i unrhyw un oherwydd rwyf wedi cael anhawster yn colli pwysau yn y gorffennol.''

Sut ydw i'n cychwyn arni?

Dywedwch wrth eich gweithiwr iechyd proffesiynol (meddyg teulu, nyrs practis, ffisiotherapydd) yr hoffech gael eich atgyfeirio i Gynllun Sir Benfro i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Bydd yn eich cynghori pa lwybr sy'n addas i'ch cyflwr chi. Unwaith y byddwch wedi cael eich atgyfeirio, byddwch yn derbyn gwahoddiad am ymgynghoriad gyda'ch gweithiwr ymarfer corff proffesiynol yn eich canolfan hamdden leol. 

Beth mae'r rhaglen yn ei gynnwys?

Yn ystod eich ymgynghoriad cyntaf, bydd eich gweithiwr proffesiynol ymarfer corff yn dod o hyd i ychydig fwy o wybodaeth am hanes eich iechyd, cynnal rhai gwiriadau iechyd sylfaenol, a thrafod yr amrywiaeth o ymarferion corff sy'n addas i chi. Bydd y gweithgareddau'n llawn hwyl ac yn ceisio’ch helpu i fod yn fwy iach drwy amrywiaeth o ddosbarthiadau a gweithgareddau.

Pryd byddaf yn mynychu?

Bydd sesiynau gweithgareddau ar gael i chi drwy gydol yr wythnos, gan gynnwys gyda'r nos a thros y penwythnos o bryd i'w gilydd. Bydd yr hyfforddwr Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn creu amserlen o weithgareddau a fydd yn diwallu eich anghenion.

Beth yw hyd y cynllun?

Cynhelir eich rhaglen a gymeradwywyd ymlaen llaw am 16 wythnos, ac yn ystod y cyfnod hwn byddwch yn gallu mynychu cynifer o sesiynau ymarfer corff ag y dymunwch.

Faint bydd yn ei gostio?

Y gost yw £2.50  y sesiwn mewn canolfannau. Neu gallwch danysgrifio i'r aelodaeth Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff am £19 y mis i fynychu unrhyw ddosbarth mewn unrhyw ganolfan ar draws y sir.

 

 

Beth fydd angen i mi ei wisgo?

Nid oes angen i chi wisgo unrhyw ddillad arbennig cyhyd â'ch bod yn gyfforddus. Mae'n well gwisgo esgidiau meddal, gwastad neu esgidiau ymarfer corff.

Oes angen i mi fod yn heini?

Nac oes, gall ymarfer corff gael ei deilwra i alluoedd gwahanol felly byddwch yn derbyn cyngor am lefel yr ymarfer corff sy'n addas i chi.

Beth sy'n digwydd ar ôl 16 wythnos?

Tuag at ddiwedd eich 16 wythnos, byddwch yn derbyn gwahoddiad i apwyntiad dal i fyny i drafod eich cynnydd a'ch anghenion ymarfer corff tymor hir. 

Exercise referral logo

Amserlen Dosbarthiadau