> unpaid carer

A ydych chi’n ofalwr di-dâl sy’n 13 oed a hŷn?

A ydych chi wedi cofrestru fel gofalwr di-dâl?

Fel gofalwr di-dâl, gallech fod yn gymwys i gael aelodaeth am ddim am chwe mis

 

Beth mae'n ei gynnwys?

Mae aelodaeth yn cynnwys defnydd unigol o’r canlynol: 

• Sesiynau Ystafell Ffitrwydd 

• Dosbarthiadau Ffitrwydd 

• Nofio Cyhoeddus 

• Ystafell Iechyd 

• Gwiriadau Iechyd 

• Rhaglenni Ymarfer Corff

 

Sut mae manteisio ar y cynnig hwn?

Cofrestru gyda Hamdden Sir Benfro ar ein gwefan, neu’r ap ‘Pembs Leisure’, neu mewn unrhyw Ganolfan Hamdden (Mae’n wych os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni - ni fydd yn rhaid i chi wneud hyn eto) 

Mae’r “Cerdyn Adnabod Gofalwr” ar gael o: Gwasanaeth Gwybodaeth a Chymorth i Ofalwyr Sir Benfro (Rhif ffôn: 01437 611002 neu e-bost: [javascript protected email address]

E-bostiwch lun o’ch “Cerdyn Adnabod Gofalwr” i [javascript protected email address] neu ewch i unrhyw Ganolfan Hamdden a dangoswch eich cerdyn i aelod o’r tîm a byddant yn nodi’r aelodaeth ar eich cyfrif.