Myfyriwr
Aelodaeth Actif
Ar gyfer pwy mae'r aelodaeth hon?
Mae'r aelodaeth hon ar gyfer myfyrwyr mewn addysg llawn amser (20 oed +)
Pam ymuno ag aelodaeth Unigol Actif?
Dyma ein pecyn aelodaeth gorau. Os ydych chi am gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gan gynnwys nofio, defnyddio'r gampfa a chymryd rhan mewn dosbarthiadau ymarfer corff am y gwerth gorau, yna dyma'r aelodaeth i chi.
Sut ydw i'n ymuno?
Bydd angen i chi ymuno â'r aelodaeth hon yn eich canolfan hamdden leol. Byddwn yn gofyn am weld prawf cymhwysedd i ymuno â'r aelodaeth hon.
Sut gallaf dalu am yr aelodaeth hon?
Gallwch dalu am yr aelodaeth hon drwy ddebyd uniongyrchol misol.
Mae’r aelodaeth hon hefyd ar gael fel cynnig talu wrth fynd am un mis heb unrhyw isafswm tymor o dan ein hopsiynau eraill.
Sylwer y bydd angen i chi fod wedi cwblhau sesiwn anwytho cyn y gallwch ddefnyddio ein hystafelloedd ffitrwydd.
Gallwch archebu sesiynau drwy'r ap, ar ein gwefan, neu drwy gysylltu â'ch canolfan leol.