Gofalwyr Maeth a Phlant sy'n Derbyn Gofal

Aelodaeth Actif

Mae Aelodaeth Gofalwyr Maeth yn rhoi'r hawl i'r Gofalwr ac unrhyw blant biolegol i Aelodaeth Unigol Actif ar gyfradd ostyngol.  

 

Ar hyn o bryd mae'n costio £13.80.  

Mae hyn hefyd yn cynnwys yr opsiwn o Aelodaeth Iau Actif rhad ac am ddim ar gyfer y plentyn sy’n derbyn gofal.

Byddai hyn yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio holl gyfleusterau Hamdden Sir Benfro

 

Beth mae'n ei gynnwys?

I gael manylion llawn am yr hyn y mae Aelodaeth Unigol Actif yn ei gynnwys, cliciwch yma.

I gael manylion llawn am yr hyn y mae Aelodaeth Iau Actif yn ei gynnwys, cliciwch yma.  

 

Sut gallaf fanteisio ar y cynnig hwn?

I fod yn gymwys ar gyfer y cynnig hwn, bydd angen i chi fod yn maethu trwy system Cyngor Sir Penfro. Bydd angen prosesu ceisiadau gyda'ch Gweithiwr Gofal Cymdeithasol, cyn i ni allu actifadu'r aelodaeth.  

Cysylltwch â'ch Gweithiwr Gofal Cymdeithasol i ddechrau.