Dros 60

Tocyn Nofio

Ar gyfer pwy mae'r tocyn hwn?

Mae'r tocyn hwn ar gyfer oedolion 60+.

Am ba mor hir mae'r tocyn yn ddilys?

Mae'r tocyn hwn yn ddilys am 6 mis.

Pam prynu Tocyn Nofio Dros 60?

Pan fyddwch chi'n prynu'r tocyn hwn, gallwch chi fynychu nofio am ddim unrhyw bryd. Mae’r cynnig gwych hwn yn cael ei sybsideiddio gan Fenter Nofio Am Ddim Llywodraeth Cymru.

Sut ydw i'n prynu tocyn?

Cliciwch ar y ddolen Ymunwch â Ni!

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, yna mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a PIN. Os nad ydych yn gwybod eich PIN yna cliciwch ar y ddolen ‘Wedi anghofio fy PIN’.

Os nad ydych wedi cofrestru gyda ni, yna crëwch gyfrif a fydd yn caniatáu ichi archebu gweithgareddau.