Teulu

Tocyn Wythnosol

Ar gyfer pwy mae'r tocyn hwn?

Mae'r tocyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd (2 oedolyn a 3 phlentyn ar y mwyaf) sydd eisiau defnyddio ein cyfleusterau am wythnos.

Pam prynu Tocyn Wythnosol Teulu?

Mae hon yn ffordd wych i roi cynnig arni cyn prynu neu i wneud y gorau o'n cyfleusterau os mai dim ond am ymweliad tymor byr y byddwch yn ymuno â ni, efallai tra ar wyliau. Mae'r tocyn hwn yn rhoi mynediad i chi a'ch teulu i:

  • Ystafell ffitrwydd
  • Pwll Nofio
  • Dosbarthiadau ymarfer grŵp
  • Ystafell iechyd
  • Sboncen
  • Badminton

 

Sut ydw i'n prynu Tocyn Wythnosol i'r Teulu?

Cliciwch ar y ddolen Ymunwch Nawr!

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, yna mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a PIN. Os nad ydych yn gwybod eich PIN yna cliciwch ar y ddolen ‘Wedi anghofio fy PIN’.

 

Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi gwblhau ymwadiad neu anwythiad i ddefnyddio ein hystafell ffitrwydd. I gwblhau ymwadiad, bydd angen i ni gael prawf eich bod yn aelod o ystafell ffitrwydd yn rhywle arall.