Unigolyn

Tocyn Wythnosol

Ar gyfer pwy mae'r tocyn hwn?

Mae'r tocyn hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolyn sydd eisiau defnyddio ein cyfleusterau am wythnos.

Pam prynu Tocyn Wythnosol Unigol?

Mae hon yn ffordd wych i roi cynnig arni cyn prynu neu i wneud y gorau o'n cyfleusterau os mai dim ond am ymweliad tymor byr y byddwch yn ymuno â ni, efallai tra ar wyliau neu daith fusnes. Mae'r tocyn hwn yn rhoi mynediad i chi i:

  • Ystafell ffitrwydd
  • Pwll Nofio
  • Dosbarthiadau ymarfer grŵp
  • Ystafell iechyd

 

Sut ydw i'n prynu Tocyn Wythnosol Unigol?

Cliciwch ar y ddolen Ymunwch Nawr!

Os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni, yna mewngofnodwch gan ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a PIN. Os nad ydych yn gwybod eich PIN yna cliciwch ar y ddolen ‘Wedi anghofio fy PIN’.

 

Byddwch yn ymwybodol y bydd angen i chi gwblhau ymwadiad neu anwythiad i ddefnyddio ein hystafell ffitrwydd. I gwblhau ymwadiad, bydd angen i ni gael prawf eich bod yn aelod o ystafell ffitrwydd yn rhywle arall.