Ydych chi'n ofalwr di-dâl?
Gofalwr di-dâl
A ydych chi wedi cofrestru fel gofalwr di-dâl?
A oes gennych "Gerdyn Adnabod Gofalwr Card"?
Fel Gofalwr Di-dâl, gallech fod yn gymwys i gael aelodaeth am ddim am chwe mis. Byddai hyn yn rho'r hawl i chi ddefnyddio holl gyfleusterau Hamdden Sir Benfro.
Mae aelodaeth yn cynnwys defnydd unigol o'r canlynol:
- Sesiynau ystafell ffitrwydd
- Dosbarthiadau ffitrwydd
- Nofio cyhoeddus
- Ystafell iechyd
- Gwiriadau iechyd
- Rhaglenni ymarfer corff
I fod yn gymwys i dderbyn pasbort aelodaeth chwe am ddim, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:
Cofrestru gyda Hamdden Sir Benfro ar ein gwefan https://hamddensirbenfro.co.uk/ , neu'r ap 'Pembs Leisure', neu mewn unrhyw Ganolfan Hamdden (mae'n wych os ydych eisoes wedi cofrestru gyda ni - ni fydd yn rhaid i chi wneud hyn eto)
Mae'r "Cerdyn Adnabod Gofalwr" ar gael o: gwasanaeth gwybodaeth a chymorth i ofalwyr Sir Benfro (Rhif ffôn: 01437 611002 neu e-bost: [javascript protected email address])
E-bostiwch lun o'ch "Cerdyn Adnabod Gofalwr" I [javascript protected email address] neu ewch i unrhyw Ganolfan Hamdden a dangoswch eich cerdyn i aelod o'r tîm a byddant yn nodi'r aelodaeth ar eich cyfrif.