Yr haf hwn, nid yw erioed wedi bod yn haws – nac yn fwy fforddiadwy – i ddechrau ar eich taith ffitrwydd.
O 1 Mehefin i 16 Gorffennaf ymunwch â ni drwy dalu dim ond £40 unwaith yn unig ac fe gewch fynediad llawn i’n cyfleusterau tan 1 Medi. Y gampfa, dosbarthiadau, nofio a mwy – dim costau cudd, dim taliadau ychwanegol, dim ond rheswm gwych i fod yn egnïol yr haf hwn.
Pam nawr?
Mae’r haf fel arfer yn gyfnod tawelach – ond nid eleni! Gyda 5 campfa Matrix newydd sbon yn lansio ledled Sir Benfro, mae mwy nag erioed i’w archwilio. P’un a yw ffitrwydd yn newydd i chi neu rydych am ddychwelyd ato, nawr yw’r amser perffaith i weld beth sy’n newydd.
Beth sy’n cael ei gynnwys?
Defnydd llawn o’n campfeydd, pyllau nofio a dosbarthiadau
Mynediad heb gyfyngiadau tan Medi 1af
Sesiwn ymgynefino ac ymweliad croesawu personol
Dim taliadau pellach tan fis Medi
Y cyfle i archwilio ein campfeydd Matrix newydd o’r radd flaenaf
Sut mae’n gweithio
• Talwch £40 ymlaen llaw a dim byd arall tan 1 Medi
• Dim ond mewn canolfan y mae’r cynnig ar gael – ymwelwch â ni i ymuno
• Ar ddiwedd cyfnod y cynnig, bydd eich aelodaeth yn parhau am ein pris safonol o £33.90/mis oni bai eich bod yn gofyn i ganslo
Pwy all ymuno?
Mae’r cynnig hwn ar gael i:
• Aelodau newydd yn unig
• Rhai na fu ganddynt aelodaeth weithredol yn ystod y 3 mis diwethaf
• Unigolion sy’n cofrestru ar gyfer ein haelodaeth Unigol Actif (debyd uniongyrchol yn unig)
Os ydych chi wedi canslo’n ddiweddar heb allu defnyddio’ch aelodaeth, sgwrsiwch â’n tîm – rydym am helpu a gallwn ddefnyddio disgresiwn lle bo’n briodol.
Sut i ymuno
Cynnig mewnol unigryw yw hwn, sy’n golygu y bydd angen i chi ymuno yn bersonol yn eich canolfan hamdden agosaf yn Sir Benfro.
Pan fyddwch chi’n ymweld:
• Bydd ein tîm yn gwirio eich cymhwysedd
• Byddwch yn cael eich cofrestru yn ein system yn dilyn taliad untro o £40
• Byddwn yn eich helpu i archebu eich sesiwn ymgynefino a’ch ymweliad croesawu
• Byddwch yna’n barod i fwynhau eich haf o ffitrwydd!
Nodiadau pwysig
• Ni ellir prynu’r cynnig hwn ar-lein
• Ar gael o 1 Mehefin i 16 Gorffennaf yn unig
• Mae aelodaeth yn parhau ar ôl 1 Medi am £33.90/mis oni bai ei bod yn cael ei chanslo
• Nid yw’r cynnig yn ddilys i unrhyw un sydd wedi bod yn aelod gweithredol yn ystod y 3 mis diwethaf (gyda rhai eithriadau yn ôl disgresiwn y staff)
Barod i ddechrau?
Galwch heibio i’ch canolfan leol o 1 Mehefin ymlaen a holwch am £40 i ffitrwydd.Dyma’ch tocyn mynediad i haf iachach a mwy egnïol – a chipolwg cyntaf ar ein campfeydd Matrix newydd anhygoel