Nofwyr mewn gwersi ar hyn o bryd

Dyma sut bydd nofwyr sy'n mynychu gwersi yn ail-archebu ar gyfer tymor nesaf.

Bydd y cwrs 10 wythnos o wersi nofio yn dechrau ar Dydd Llun 08.04.2024 ac yn rhedeg hyd nes yr wythnos sy'n dechrau ar 15.07.2024.

Ni fydd unrhyw wersi yn cael eu cynnal yn ystod gwyliau hanner tymor, sef yr wythnos sy'n dechrau ar 27.05.24

Nodwch y wybodaeth ganlynol wrth fynd ati i gadw eich lle yn y gwersi ar gyfer tymor nesaf.

 

Blaenoriaeth i Archebu

  • Bydd pob nofiwr yn yr ysgol nofio ar hyn o bryd yn cael e-bost i roi gwybod iddynt pa wers a ddyrannwyd iddynt ar gyfer y tymor nesaf.
  • Byddwn yn e-bostio dolen i'r holl nofwyr sy'n mynychu gwersi er mwyn i chi dalu ar-lein. Sicrhewch fod cyfeiriad e-bost wedi'i gofrestru i gyfrif hamdden eich plentyn er mwyn i chi dderbyn y neges hon. I roi cyfeiriad e-bost ar gyfrif eich plentyn, e-bostiwch eich canolfan hamdden leol gyda'r cyfeiriad e-bost yr ydych am ei ychwanegu, ac enw llawn a dyddiad geni eich plentyn.
  • Bydd y nofwyr i gyd yn derbyn lle yn y don gywir. Mae'n bosibl bydd y wers yn cael ei chynnal ar amser gwahanol, ar ddiwrnod gwahanol, neu gydag athro gwahanol. Ymdrechwn i wneud cyn lleied o newidiadau ag sy'n bosibl.
  • Bydd gennych blaenoriaeth archebu o Dydd Llun 18.03.24 hyd at Dydd Iau 21.03.24.
  • Os oes gan eich plentyn aelodaeth yna cadarnhewch a ydyn nhw am gadw eu lle trwy ateb yr e-bost gwybodaeth ail-archebu defnyddio'r cyfeiriad e-bost a ddarperir yn yr e-bost.
  • Bydd unrhyw gyfranogwyr nad yw eu gwersi nofio yn cael eu talu neu eu cadarnhau yn cael eu dileu.
  • Os ydych am newid eich gwers, mae modd i chi wneud hyn ar Dydd Gwener 22.03.24 o 11.30yb ymlaen. Bydd rhaid i chi ffonio eich canolfan hamdden leol er mwyn gwneud hyn.
  • Anfonwch e-bost at eich canolfan hamdden leol os nad ydych am ddychwelyd i'r gwersi neu os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill.

 

GWYBODAETH AM DALU

Mae nifer o opsiynau ar gyfer sut i dalu am wersi nofio:

 

Opsiynau Aelodaeth

Y ffordd symlaf i dalu am eich gwersi nofio yw gydag aelodaeth. Mae gwersi nofio wedi'u cynnwys yn ein Aelodaeth Bolt-On Gwers Nofio Iau a Theulu. Y buddion sydd ag aelodaeth yw:

  • Gallwch rannu'r gost o fynychu gwersi nofio trwy dalu gan ddefnyddio debyd uniongyrchol misol.
  • Bydd eich lle yn y gwersi yn cael ei gadw a'i dalu'n awtomatig a'r cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cadarnhau y bydd eich plentyn yn bresennol.
  • Mae aelodaeth iau hefyd yn cynnwys mynediad at weithgareddau iau, sesiynau nofio cyhoeddus, gostyngiadau ar gyfer partïon, a chynlluniau gwyliau!
  • Gwybodaeth aelodaeth

 

Talu am y Tymor

Hefyd, cewch yr opsiwn o dalu am dymor o wersi nofio ar-lein, dros y ffôn, neu yn y ganolfan trwy gerdyn.

Os oes gennych blentyn sydd wedi bod yn mynychu gwersi nofio, y ffordd symlaf a mwyaf effeithlon o dalu am wersi nofio yw ar-lein. 

Anfonir yr e-byst talu ar Dydd Llun 18.03.24 ac eto ar Dydd Mercher 20.03.24

Cliciwch ar y ddolen yn yr e-bost i dalu am y gwersi. Wedyn, cliciwch 'Fy Masged' a bydd y ddolen honno'n eich arwain at fanylion archebu eich plentyn a'r taliad â cherdyn.

Byddwch yn derbyn e-bost ar gyfer pob un plentyn sydd wedi'i gofrestru am wersi nofio gyda dolen unigol ym mhob un.

Os nad ydych yn derbyn e-bost erbyn 20.03.24, ffoniwch eich canolfan hamdden leol i dalu.

 

Gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg

Nod pob cyfleuster yw cynnig gwersi yn ddwyieithog. Os yw'n well gennych chi i'ch plentyn dderbyn cyfarwyddyd yn Gymraeg yn unig, llenwch y ffurflen gais, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich cais. Sylwch y bydd angen nifer gofynnol o gyfranogwyr ar gyfer hyfywedd dosbarth, fel sy'n wir am bob gwers.

Fideo Canllawiau Ailarchebu