Bydd gofyn i bob nofiwr newydd sydd am ymuno â’r ysgol nofio ddod i sesiwn asesu er mwyn sicrhau ei fod yn cael lle yn y dosbarth cywir.
Bydd rhaid i chi anfon neges e-bost i’ch canolfan hamdden leol i ofyn am asesiad.
Unwaith y bydd eich plentyn wedi cael yr asesiad, bydd yn cael ei ychwanegu at y rhestr o’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb mewn gwersi nofio.
Pan fydd lle ar gael yn y dosbarth cywir, bydd pawb ar y rhestr hon yn cael e-bost sy’n cynnig cyfle iddynt ffonio’r ganolfan i gadw lle.
Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.
| Gwersi Nofio Tymor yr Haf 2026 | |
| Canolfan Hamdden | Gwybodaeth am y Tymor |
| Abergwaun, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Dinbych-y-pysgod | Bydd y cwrs nesaf yn 13 wythnos o wersi nofio yn dechrau ddydd Llun 13.04.26 ac yn rhedeg tan yr wythnos yn cychwyn ar 13.07.26. Ni fydd gwersi ar Ŵyl y Banc 04.05.26 nac ar hanner tymor, yr wythnos sy'n dechrau 25.05.26. |
| Crymych | Bydd ein tymor newydd o wersi nofio yn dechrau ar 20.04.2026 ar gyfer cwrs 12 wythnos, fydd yn rhedeg tan yr wythnos sy'n dechrau 13.07.2026, heblaw am hanner tymor a gŵyl y banc Mai (04/05/26) |
| Penfro | Byddwch yn ymwybodol y bydd gwersi nofio'r tymor hwn yn gorffen wythnos yn gynnar, yr wythnos olaf o wersi fydd yr wythnos sy'n cychwyn 16.03.2026. Bydd ein tymor newydd o wersi nofio yn dechrau ar 27.04.2026 ar gyfer cwrs 11 wythnos, fydd yn rhedeg tan yr wythnos sy'n dechrau 13.07.2026, heblaw am hanner tymor a gŵyl y banc mai (04/05/26) |
Gwybodaeth am dalu
Dyma’r opsiynau talu ar gyfer gwersi nofio:
Aelodaeth
Y ffordd symlaf o dalu am eich gwersi nofio yw gydag aelodaeth. Mae gwersi nofio wedi’u cynnwys yn ein haelodaeth Dysgu Nofio a gellir eu hychwanegu at aelodaeth Aelwyd am dâl bach ychwanegol. Manteision cael aelodaeth:
- Gallwch rannu’r gost o fynychu gwersi nofio trwy dalu gan ddefnyddio debyd uniongyrchol misol.
- Bydd eich lle yn y gwersi yn cael ei gadw a’i dalu’n awtomatig, a’r cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd cadarnhau bod eich plentyn am fod yn bresennol erbyn y dyddiad a bennir.
- Mae aelodaeth Dysgu Nofio hefyd yn cynnwys mynediad i weithgareddau iau, sesiynau nofio cyhoeddus, a gostyngiadau i bartïon a chynlluniau gwyliau!
Ceir rhagor o wybodaeth am aelodaeth yma.
Talu fesul tymor
Mae gennych yr opsiwn o dalu am dymor o wersi nofio ar-lein.
Mae ein gwersi nofio yn costio £6.40 (£6.70 o Ebrill 1af) am wers 30 munud, ac £8.50 (8.90 o Ebrill 1af) am wers 40 munud.
Pasbort i Hamdden
Rydym yn cynnig gwersi am bris gostyngol i’r rhai sy’n gymwys ar gyfer ein cynllun Pasbort i Hamdden. Gofynnwch i’ch canolfan hamdden am y manylion llawn.
Gwersi nofio a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae pob cyfleuster yn anelu at gynnig gwersi yn ddwyieithog. Os ydych yn dymuno i’ch plentyn gael gwersi nofio yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg, cwblhewch y ffurflen gais, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich cais. Noder y bydd angen lleiafswm o gyfranogwyr er mwyn i’r dosbarth fod yn hyfyw, fel sy’n wir am bob gwers.