Bydd gofyn i bob nofiwr newydd sydd am ymuno â’r ysgol nofio ddod i sesiwn asesu er mwyn sicrhau ei fod yn cael lle yn y dosbarth cywir.

Bydd rhaid i chi anfon neges e-bost i’ch canolfan hamdden leol i ofyn am asesiad.

Unwaith y bydd eich plentyn wedi cael yr asesiad, bydd yn cael ei ychwanegu at y rhestr o’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb mewn gwersi nofio.

Pan fydd lle ar gael yn y dosbarth cywir, bydd pawb ar y rhestr hon yn cael e-bost sy’n cynnig cyfle iddynt ffonio’r ganolfan i gadw lle.

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

 

Y tymor nesaf

Bydd cwrs 15 wythnos o wersi nofio yn dechrau ddydd mawrth 1 Medi 2026 ac yn rhedeg tan yr wythnos yn cychwyn ar 14 Rhagfyr 2026.

Ni fydd unrhyw wersi yn cael eu cynnal yn ystod y gwyliau hanner tymor, sef yr wythnos yn cychwyn ar 26 Hydref 2026.

 

Gwybodaeth am dalu

Dyma’r opsiynau talu ar gyfer gwersi nofio:

 

Aelodaeth

Y ffordd symlaf o dalu am eich gwersi nofio yw gydag aelodaeth. Mae gwersi nofio wedi’u cynnwys yn ein haelodaeth Dysgu Nofio a gellir eu hychwanegu at aelodaeth Aelwyd am dâl bach ychwanegol. Manteision cael aelodaeth:

Gallwch rannu’r gost o fynychu gwersi nofio trwy dalu gan ddefnyddio debyd uniongyrchol misol.

Bydd eich lle yn y gwersi yn cael ei gadw a’i dalu’n awtomatig, a’r cyfan y bydd angen i chi ei wneud fydd cadarnhau bod eich plentyn am fod yn bresennol erbyn y dyddiad a bennir.

Mae aelodaeth Dysgu Nofio hefyd yn cynnwys mynediad i weithgareddau iau, sesiynau nofio cyhoeddus, a gostyngiadau i bartïon a chynlluniau gwyliau!

Ceir rhagor o wybodaeth am aelodaeth yma

 

Talu fesul tymor

Mae gennych yr opsiwn o dalu am dymor o wersi nofio ar-lein.

Mae ein gwersi nofio yn costio £6.70 am wers 30 munud, ac £8.90 am wers 40 munud.

 

Pasbort i Hamdden

Rydym yn cynnig gwersi am bris gostyngol i’r rhai sy’n gymwys ar gyfer ein cynllun Pasbort i Hamdden. Gofynnwch i’ch canolfan hamdden am y manylion llawn.

 

Gwersi nofio a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae pob cyfleuster yn anelu at gynnig gwersi yn ddwyieithog. Os ydych yn dymuno i’ch plentyn gael gwersi nofio yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg, cwblhewch y ffurflen gais, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich cais. Noder y bydd angen lleiafswm o gyfranogwyr er mwyn i’r dosbarth fod yn hyfyw, fel sy’n wir am bob gwers.