Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer mynychu gwersi yng Nghanolfan Hamdden Aberdaugleddau.

Cyn i chi gyrraedd:

  • Byddai'n fuddiol i chi ddod â'ch plentyn i nofio yn ystod sesiwn gyhoeddus cyn ei wers gyntaf, er mwyn ymgyfarwyddo â'r pwll.
  • Bydd gwisgo gwisgoedd ffit agos (nid siorts bwrdd) yn ei gwneud hi'n haws arnofio ac yn creu llai o lusg.
  • Gall eich nofiwr ddod â gogls ond nid ydynt yn hanfodol.
  • Rydym yn annog pob nofiwr i wisgo het nofio.
  • Ymataliwch rhag bwyta am awr cyn nofio.
  • Os yw eich plentyn yn nosbarthiadau Splash 1 a 2, bydd angen i'r oedolyn cyfrifol ddod â chit nofio i fod gyda’u plentyn yn y dŵr.

 

Pan fyddwch yn cyrraedd:

  • Cofrestrwch gan ddefnyddio eich cerdyn hamdden yn y dderbynfa.
  • Gwnewch eich ffordd i'r ystafelloedd newid a chael eich plentyn i newid. 
  • I unrhyw nofwyr sy'n 8 oed neu’n hŷn, bydd angen i fechgyn newid yn yr ystafelloedd newid i ddynion, a merched yn yr ystafelloedd newid i fenywod. 
  • Defnyddiwch y loceri a ddarperir i storio unrhyw eiddo. Peidiwch â gadael unrhyw ddillad yn y ciwbiclau newid.
  • Ewch â'ch plentyn i ddrws yr ystafell newid lle caiff ei gasglu gan ei athro nofio.

 

Yn ystod y wers:

  • Mae'r oriel wylio ar agor i wylwyr.
  • Os yw eich plentyn yn 8 oed neu’n iau, rhaid i’r oedolyn cyfrifol aros yn yr adeilad drwy'r amser.
  • Helpwch eich plentyn i gael y gorau o'i wers drwy ganiatáu iddo ganolbwyntio’n llawn ar yr athro. Gall cyfarwyddiadau ychwanegol yn dod o’r oriel wylio dynnu sylw nofwyr.
  • Mwynhewch y profiad o weld eich plentyn yn dysgu sgiliau newydd wrth gael hwyl. Mae plant yn dysgu drwy chwarae a byddan nhw'n atgyfnerthu sgiliau yn gynt.

 

Wedi'r wers:

  • Ar ddiwedd y wers, dychwelwch i'r ystafelloedd newid. Bydd yr athro nofio yn dod â'r nofwyr at fynedfa'r ystafell newid ac yn sicrhau bod yna drosglwyddiad diogel.
  • Newidiwch eich plentyn a gwnewch eich ffordd adref.
  • Os yw hi'n oer y tu allan, cofiwch lapio'n gynnes ar gyfer y daith adref.
  • Dewch â'ch plentyn i sesiwn nofio gyhoeddus i gefnogi ei daith dysgu nofio. Gall yr athro nofio roi gwybod i chi beth i’w ymarfer. Bydd dod i nofio am ddim ond awr yr wythnos yn treblu faint o amser sy’n cael ei dreulio yn y dŵr, sy'n golygu bod sgiliau'n cael eu hatgyfnerthu'n gynt!