Dyma ychydig o wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer mynychu gwersi yng Nghanolfan Hamdden Dinbych Y Pysgod.
Cyn i chi gyrraedd:
- Byddai'n fuddiol i chi ddod â'ch plentyn i nofio yn ystod sesiwn gyhoeddus cyn ei wers gyntaf, er mwyn ymgyfarwyddo â'r pwll.
- Bydd gwisgo gwisgoedd nofio tyn (nid siorts bwrdd) yn ei gwneud hi'n haws arnofio ac yn creu llai o lusg.
- Gall eich nofiwr ddod â gogls ond nid ydynt yn hanfodol.
- Rydym yn annog pob nofiwr i wisgo het nofio.
- Ymatalwch rhag bwyta am awr cyn nofio.
- Os bydd pwll yn cau, gwneir pob ymdrech i gysylltu â chi i roi gwybod. Sicrhewch fod eich manylion yn gyfredol ar ein system
Pan fyddwch yn cyrraedd:
- Cofrestrwch gan ddefnyddio eich cerdyn hamdden yn y dderbynfa.
- Gwnewch eich ffordd i'r ystafelloedd newid a newidiwch eich plentyn.
- I unrhyw nofwyr sy'n 8 oed neu’n hŷn, bydd angen i fechgyn newid yn yr ystafelloedd newid i ddynion, a merched yn yr ystafelloedd newid i fenywod.
- Defnyddiwch y loceri a ddarperir i storio unrhyw eiddo. Peidiwch â gadael unrhyw ddillad yn y ciwbiclau newid neu ar y meinciau.
- Ewch â'ch plentyn i fynedfa’n pwll, lle caiff ei gasglu gan ei athro nofio.
Yn ystod y wers:
- Mae'r oriel wylio ar agor i wylwyr.
- Mae Sblash a Thon 1-3 yn para 30 munud; Mae tonnau 4 i 7 yn 40 munud o hyd
- Os yw eich plentyn yn 8 oed neu’n iau, rhaid i’r oedolyn cyfrifol aros yn yr adeilad.
- Helpwch eich plentyn i gael y gorau o'i wers drwy ganiatáu iddo ganolbwyntio’n llawn ar yr athro. Gall cyfarwyddiadau ychwanegol yn dod o’r oriel wylio dynnu sylw nofwyr.
- Mwynhewch y profiad o weld eich plentyn yn dysgu sgiliau newydd wrth gael hwyl. Mae plant yn dysgu drwy chwarae a byddan nhw'n atgyfnerthu sgiliau yn gynt.
Wedi'r wers:
- Ar ddiwedd y wers, dychwelwch i'r ystafelloedd newid. Bydd yr athro nofio yn dod â'r nofwyr at fynedfa'r ystafell newid ac yn sicrhau bod yna drosglwyddiad diogel.
- Newidiwch eich plentyn a gwnewch eich ffordd adref.
- Os yw hi'n oer y tu allan, cofiwch lapio'n gynnes ar gyfer y daith adref.
- Dewch â'ch plentyn i sesiwn nofio gyhoeddus i gefnogi ei daith dysgu nofio. Gall yr athro nofio roi gwybod i chi beth i’w ymarfer. Bydd dod i nofio am ddim ond awr yr wythnos yn treblu faint o amser sy’n cael ei dreulio yn y dŵr, sy'n golygu bod sgiliau'n cael eu hatgyfnerthu'n gynt!