Diolch am ddewis mynychu gwersi nofio yng Nghanolfan Hamdden Penfro.
Nodwch y telerau ac amodau canlynol sy’n berthnasol i'ch archeb:
- Mae pob gwers yn para am 30 munud.
- Gofynnir ichi beidio â chyrraedd mwy na phum munud cyn amser dechrau'r wers.
- Ewch i mewn i'r adeilad trwy'r brif fynedfa a gadewch yr adeilad trwy allanfa dân y stiwdio ddawns. Fe'ch anogir i ddod â'ch plentyn yn gwisgo ei wisg nofio, h.y. gwisgo ei wisg nofio o dan ei ddillad neu dywel.
- Mae'r ystafelloedd newid ar agor ac rydym yn darparu bocsys i gadw eich eiddo (gadewir eitemau ar eich risg eich hun). Dylai bechgyn wyth oed a throsodd newid yn yr ystafelloedd newid i ddynion a dylai merched wyth oed a throsodd newid yn yr ystafelloedd newid i fenywod.
- Anogir pob plentyn i wisgo hetiau a chael cawod cyn mynd i mewn i'r pwll.
- Efallai na chaniateir i'ch plentyn fynychu'r wers os yw'n cyrraedd bum munud ar ôl amser dechrau'r wers.
- Mae'n rhaid i oedolion cyfrifol plant o dan wyth oed aros yn yr adeilad.
- Gellir gwylio yn Ystafell Dutton.
- Darperir clytiau gwrthfacterol a hylif diheintio dwylo i chi eu defnyddio trwy gydol y ganolfan.
- Bydd gwersi nofio yn cael eu haddysgu wrth ochr y pwll yn bennaf.
- Mae angen i blant yn Sblash 1/2 a 3/4 wisgo cymorth hynofedd gosodedig addas. Mae'n well gennym pe baent yn defnyddio disgiau braich ac mae'r rhain ar gael i'w prynu yn y ganolfan, ond gellir defnyddio bandiau braich a neidwyr pyllau hefyd.
- Pe bai'r pwll ar gael, byddwn yn gwneud ein gorau glas i gysylltu â'n cwsmeriaid cyn gynted â phosib. Sicrhewch eich bod yn ein dilyn ni ar Facebook.
- Dilynwch holl ganllawiau cyfredol y llywodraeth mewn perthynas â COVID-19.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael mwy o wybodaeth, mae croeso i chi gysylltu â ni.