Carfan Nofio Anabl Palod Sir Benfro
Mae Palod Sir Benfro’n darparu hyfforddiant nofio i oedolion a phlant sydd ag anabledd mewn awyrgylch cyfeillgar a llawn hwyl. Maent yn glwb cyswllt Nofio Cymru a bydd yr aelodau’n cystadlu mewn galâu nofio anabledd ledled y De.
Mae gan eu nofwyr amrywiaeth eang o anableddau, o anableddau dysgu i anableddau corfforol. Yn y clwb cynhwysol hwn mae hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy’n gallu gweld bod nofwyr gydag anabledd yn cael hwyl, yn gwella eu techneg a’u nerth, yn cymdeithasu ac yn cael cyfeillion newydd!
Cysylltwch â Pembrokeshire Puffins gael rhagor o wybodaeth