Croeso i’n Hysgol Nofio!

 

Yn Hamdden Sir Benfro ein nod yw cyflwyno Rhaglen Dysgu Nofio gynhwysol i blant o bob oed a gallu. O’ch profiad nofio cyntaf i athletwr elît mae rhywbeth i bawb yn ein Hysgol Nofio. Rydym yn dilyn cynllun ‘Dysgu Nofio Cymru’ sy’n rhoi llwybr clir ar gyfer datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gyrraedd ein nod y bydd pob plentyn yn nofiwr erbyn cyrraedd 11 oed. 

Bydd plant yn dysgu trwy chwarae i ddatblygu Sgiliau Symud Sylfaenol a Sgiliau Dyfrol Craidd. Mae gan fframwaith Dysgu Nofio Cymru ddilyniant eglur ac fe’i rhannwyd yn 3 prif faes Swigod, Sblash a Thonnau. Mae ein gwersi nofio’n rhedeg drwy’r flwyddyn yn unol â thymhorau ysgol, gyda gwersi trylwyr yn cael eu cynnig yn ystod gwyliau ysgol. I gael rhagor o wybodaeth am sut i archebu, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin.