Nofio Sir Benfro 

Allech chi fod yr Adam Peaty neu Jazz Carlin nesaf? Mae Nofio Sir Benfro’n cynnig amgylchedd proffesiynol ond llawn hwyl i bobl ifanc dyfu a ffynnu ynddo, wrth nofio ac fel oedolion ifanc. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu cynnig hyfforddiant proffesiynol ein dau aelod o staff llawn-amser Craig Nelson ac Nick Russel, gan roi cyfleoedd i nofwyr yn Sir Benfro hyfforddi i safon perfformio, a helpu iddynt gyrraedd eu llawn allu. 

Mae gan Nofio Sir Benfro nifer o nofwyr ar Raglenni Cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd gyda nofwyr yn ceisio gwneud y cam ymlaen i dimau Prydain cyn bo hir. Ynghyd â’n 6 chlwb datblygu, mae Nofio Sir Benfro’n un o’r mwyaf yng Nghymru, yn cynnig 4 carfan yn ymblethu â’r clybiau nofio sy’n amrywio o 12 oed ac iau, yr holl ffordd i 18 oed a hŷn!