Mae fframwaith Sblash yn annog darganfyddiad fwyfwy annibynnol a than arweiniad plentyn ifanc o’r amgylchedd dyfrol i ddatblygu hyder yn y dŵr, gan anelu’n benodol at blant 3 oed a hŷn.
Caiff ein dosbarthiadau Sblash eu cyflwyno gydag athro neu athrawes yn y dŵr yn dysgu hyd at 4 o blant. Mae 6 lefel dilyniant yn Sblash, gyda sgiliau dyfrol yn datblygu’n raddol drwy gydol pob lefel, gyda’r plant yn fwyfwy annibynnol yn y dŵr. Bydd plant yn dysgu trwy ddarganfod yr amgylchedd dyfrol dan arweiniad i ddatblygu hyder yn y dŵr.
Sblash 1
Amcanion
1. Y plentyn yn ddiogel tra yn y dŵr ac wrth fynd i mewn ac allan o’r pwll
2 .Y plentyn yn datblygu ei hyder yn y dŵr
3. Y plentyn yn datblygu sgiliau hyfedredd corfforol a sgiliau penodol i’r dŵr sef hynofedd, anadlu dyfrol, lliflinio, troi a chyfeiriadedd.
4. Y plentyn yn dysgu sgiliau nofio cynnar sy’n caniatáu iddynt symud yn y dŵr gyda’r breichiau a’r coesau.
Sblash 2
Amcanion
1. Y plentyn yn datblygu gallu i gicio drwy’r dŵr ar y bol a’r cefn
2. Y plentyn yn datblygu mwy o sgiliau nofio cynnar sy’n galluogi’r plentyn i symud yn y dŵr gyda’r breichiau a’r coesau.
3. Y plentyn yn dod yn fwy annibynnol yn y dŵr
4. Y plentyn yn datblygu mwy o hyfedredd corfforol a sgiliau penodol i’r dŵr
Sblash 3
Amcanion
1. Y plentyn yn mynd i’r dŵr yn ddiogel yn annibynnol
2.. Y plentyn yn gallu cicio yn bellach ar y bol ac ar y cefn
3. Gall y plentyn roi ei wyneb yn y dŵr yn hyderus
4. Y plentyn yn datblygu sgiliau lliflinio ar ei fol ac ar ei gefn
Sblash 4
Amcanion
1. Gall y plentyn fynd i mewn ac allan o’r dŵr yn annibynnol
2. Gall y plentyn gicio drwy symud y ddwy goes gyda’i gilydd ac ar wahân
3. Gall y plentyn symud drwy’r dŵr ar ei fol ac ar ei gefn
4. Gall y plentyn anadlu’n rhythmig
Sblash 5
Amcanion
1. Gall y plentyn neidio i’r dŵr
2. Gall y plentyn symud drwy’r dŵr gan symud y breichiau/coesau gyda’i gilydd a bob yn ail gyda chymhorthion nofio
3. Gall y plentyn fynd o dan y dŵr yn gyfan gwbl
4. Gall y plentyn wneud troad hydredol cyflawn yn y dŵr
Sblash 6
Amcanion
1. Mae’r plentyn yn hyderus yn y dŵr heb oedolyn
2. Mae techneg arnofio, llithro ac anadlu’r plentyn yn gwella
3. Gall y plentyn badlo drwy’r dŵr gyda symudiadau bob yn ail a gyda’i gilydd
4. Gall y plentyn roi ei wyneb i gyd yn y dŵr heb gogls