Mae Swigod yn darparu cyflwyniad i’r amgylchedd dyfrol gyda chymorth llawn ar gyfer babanod a phlant ifanc gydag oedolion.
Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer Gwers Nofio Swigod
Dyma ychydig o gyngor a fydd yn eich helpu i gael y profiad gorau posibl wrth fynychu eich gwers nofio Swigod
1. Dewch â thywel sbâr i'ch babi. Gallwch ddefnyddio un i'w osod arno wrth newid i helpu i'w cadw'n gynnes ac yna cael tywel sych i'w helpu i sychu.
2. Defnyddiwch gewyn nofio neoprene a allwch ailddefnyddio, dros ben cewyn nofio tafladwy. Rydym yn gweithredu polisi cewyn dwbl i helpu i gadw ein pyllau yn lân.
3. Gall gwisg neoprene helpu i gadw'ch babi yn gynnes yn ystod ei wers.
4. Canwch y caneuon y rydyn ni'n eu canu a defnyddiwch y cyngor rydyn ni'n ei roi yn ystod y gwersi a'u rhoi ar waith yn eich arferion amser bath, bydd ailadrodd sgiliau yn helpu'ch babi i ddatblygu.
5. Gwenwch a mwynhewch fod yn y dŵr! Bydd eich babi yn cymryd ciwiau wrthoch chi. Os ydych chi'n mwynhau'r dŵr bydd yn helpu nhw i deimlo'n ddiogel a mwynhau'r dŵr hefyd.
camau swigod
Mae 4 lefel dilyniant yn Swigod, gyda sgiliau dyfrol yn datblygu’n raddol drwy gydol pob lefel. Caiff oedolion cyfrifol eu dysgu sut i gefnogi a chynnal y plant trwy gemau, caneuon a gweithgareddau ar themâu difyr. Mae tystysgrif i’w chael am gwblhau pob lefel yn llwyddiannus.
Siwgod 1
Ar gyfer oedolion sy'n mynd gyda babi neu blentyn hŷn os mai dyma eu profiad cyntaf yn y dŵr, ar gyfer cyflwyniad i'r amgylchedd dyfrol â chefnogaeth lawn.
Nodau
1. Mae'r oedolyn a'r plentyn yn ddiogel tra yn y dŵr, ac wrth fynd i mewn ac allan o'r pwll
2. Mae'r oedolyn a'r plentyn yn datblygu hyder yn y dŵr
3. Mae'r oedolyn yn dysgu nifer o dechnegau
4. Mae'r oedolyn yn annog y plentyn i symud i mewn ac trwy'r dŵr Swigod'
Swigod 2
Ar gyfer oedolion sy'n mynd gyda babi neu blentyn bach i gael cyflwyniad wedi'i gefnogi'n llawn i'r amgylchedd dyfrol
Nodau
1. Mae oedolyn yn helpu'r plentyn i fynd i mewn ac allan o'r pwll mewn gwahanol ffyrdd
2. Oedolyn a phlentyn i wella eu hyder yn y dŵr
3. Mae oedolyn yn dysgu bod cefnogaeth gynyddol yn dal sy'n galluogi'r plentyn i symud trwy'r dŵr.
4. Mae'r plentyn yn dechrau archwilio'r dŵr.
Swigod 3
Ar gyfer oedolion sy'n mynd gyda babi neu blentyn bach i gael cyflwyniad wedi'i gefnogi'n llawn i'r amgylchedd dyfrol
Nodau
1. Plentyn yn mynd i mewn ac allan o'r pwll gyda chefnogaeth
2. Mae'r plentyn yn dechrau dysgu sut i symud trwy'r dŵr ar ei flaen a'i gefn
3. Oedolyn a plentyn yn parhau i wella ei hyder yn y dŵr
4. Mae'r plentyn yn dechrau gwlychu ei wyneb ei hun yn y dŵr a chwythu swigod
Swigod 4
Ar gyfer oedolion sy'n mynd gyda babi neu blentyn bach i gael cyflwyniad wedi'i gefnogi'n llawn i'r amgylchedd dyfrol.
Nodau
1. Mae'r plentyn yn dysgu sut i arnofio a throi yn y dŵr
2. Mae'r oedolyn a'r plentyn yn magu mwy o hyder yn y dŵr
3. Mae'r plentyn yn dechrau dysgu sut i anadlu yn y dŵr
4. Oedolyn yn dysgu sut i gefnogi eu plentyn i annog nofio