Tonnau!
Rydym yn cyflwyno Tonnau 1 i 7 yn y brif ardal ‘Dysgu Nofio’. Caiff plant o 4 oed ymlaen eu dysgu’r sgiliau nofio a dyfrol angenrheidiol i nofio ac i gyfranogi mewn gweithgareddau dyfrol eraill fel Cyw Achub Bywyd, Hoci Tanddwr, Nofio Cystadleuol a Pholo Dŵr.
Maent hefyd yn cael dysgu sgiliau diogelwch dŵr hanfodol lle cânt wybod sut i fod yn ddiogel mewn dŵr ac o’i gwmpas, fel nofio mewn dillad, nofio yn yr unfan a nofio heb gogls.
Mae llaweroedd o fathodynnau a thystysgrifau i’w hennill gan gynnwys un am bob ton a bathodynnau pellter. Faint all eich plant chi eu casglu ar eu taith nofio?
Ton 1 – Prif Nodau
- Datblygu hyder yn y dŵr.
- Bod yn ddiogel yn y dŵr, ac wrth fynd i mewn ac allan o’r pwll.
- Dysgu technegau arnofio, rhodli ac anadlu sylfaenol.
- Dechrau dysgu nofio ymlaen, nofio ar y cefn, nofio broga a nofio glöyn byw, gyda chymhorthion os bydd angen.
Ton 2 - Prif Nodau
- Gallu neidio i’r pwll heb gogls.
- Gwella technegau rhodli, arnofio ac anadlu.
- Llithro yn yr ystum llyfn.
- Pellterau byr o nofio ymlaen, nofio ar y cefn, nofio broga a nofio glöyn byw, heb gymhorthion.
Ton 3 - Prif Nodau
- Codi rhywbeth o lawr y pwll.
- Gwella rhodli ac arnofio.
- Dysgu sut i nofio yn yr unfan.
- Dysgu’r Cod Diogel a baneri traeth.
- Nofio pellterau byr yn y pedair ffordd: nofio ymlaen, nofio ar y cefn, nofio broga a nofio glöyn byw, heb gymhorthion.
Ton 4 - Prif Nodau
- Dysgu sut i wneud ciciadau dolffin tanddwr.
- Dysgu’r ystum HELP.
- Gwella technegau arnofio a nofio yn yr unfan.
- Gwella techneg pob un o’r 4 dull nofio.
Ton 5 - Prif Nodau
- Dysgu neidiau o wahanol siâp heb gogls.
- Dysgu sut i wneud trosben ymlaen a llawsafiad yn y dŵr.
- Gwella technegau personol rhodli a phara’n fyw.
- Nofio pellterau hwy ymhob un o’r pedwar dull, gan gynnwys hyd (25 metr) o’ch hoff ddull nofio.
Ton 6 - Prif Nodau
- Dysgu sut i godi gwres yn briodol ar gyfer ymarfer a pham.
- Dysgu sut i wneud trosben yn ôl, plymio i’r dŵr wysg y pen a phlymio ar eistedd.
- Gwella technegau personol para’n fyw, gan gynnwys nofio mewn dillad.
- Nofio pellterau hwy ymhob un o’r pedwar dull, gan ganolbwyntio ar dechneg.
Ton 7 - Prif Nodau
- Dysgu sut i blymio naid.
- Gwella sgiliau arnofio, rhodli, nofio yn yr unfan a chylchdroi.
- Nofio pellterau hwy ymhob un o’r pedwar dull a nofio Cymysgfa Unigol.
- Nofio fel rhan o dîm mewn ras gyfnewid.