Edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin am wybodaeth ynglŷn â’n Gwersi Dysgu Nofio. 

Pa mor hir yw’r wers?

Mae‘r gwersi Sblash a tonau 1 - 3 yn para am 30 munud. Mae ton 4 i 7 yn 40 munud.

 

Pwy fydd yr athro neu athrawes?

Er mwyn sicrhau parhad i’r plant, byddwn yn ymdrechu i sicrhau fod yr un athro neu athrawes yn eu dysgu drwy’r tymor. Os nad yw’r athro arferol ar gael, bydd athro arall yn llenwi mewn. Bydd yr athro sy’n llenwi’n dilyn cynllun yr athro arferol. 

Faint fydd y gwersi yn costi?

Bydd cost y cwrs yn amrywio, mae’n dibynnu ar faint o wythnosau sydd yn y cwrs. Cysylltwch â’ch canolfan hamdden leol am wybodaeth ynglŷn â’r prisiau presennol.

Mae’r gwersi yn gynwysedig a’n Haelodaeth Iau! Mae’r aelodaeth hefyd yn cynnwys gweithgareddau iau a nofio cyhoeddus. Gallwch ddod i mewn heb gost ychwanegol ac ymarfer y sgiliau a ddysgwyd mewn gwersi!

Mae cyfradd is ar gael os ydych yn rhan o’n cynllun Pasbort i Hamdden. Cliciwch yma am dudalen Pasbort i Hamdden i gael rhagor o wybodaeth.

 

Faint o bobl bydd yn fy nosbarth?

DosbarthNifer yn y dosbarth (un athro)Nifer yn y dosbarth (gyda cynorthwydd)
Swigod12 (Rhiant yn y dŵr)Amherthnasol
Sblash 1 - 446
Sblash 5 a 668
Tonnau 1 - 36
Ton 4 a 5812
Ton 6 a 710Amherthnasol

 

Beth sy’n digwydd pan fydd angen i mi ail-archebu ar gyfer tymor nesaf?

Ar ôl iddynt ymuno a’n gwersi nofio, byddwn yn cadw lle iddynt ar gyfer y tymor nesaf. Gall hyn fod ar ddiwrnod gwahanol, ar adeg wahanol neu gydag athro gwanhaol.

Cyfeiriwch at ein hadran ‘Sut i Archebu’ am ragor o wybodaeth.

 

Beth sydd angen ar gyfer y gwersi?

Bydd angen dillad nofio priodol – i’r merched mae gwisg un darn yn ddelfrydol ac i’r bechgyn trowsus nofio neu siorts tynn. Gall dillad nofio ffasiynol, fel siorts llydan gwneud yn llawer anoddach i blant ddysgu nofio oherwydd eu bod yn cynyddu’r gwrthsafiad i’r dŵr ac yn gwneud arnofio’n anoddach. Os hoffech i’ch plant wisgo gogls mae croeso iddynt ddod â rhai, neu mae dewis ohonynt ar werth yn y dderbynfa. Cofiwch dywel bob amser i gynhesu a sychu ar ôl y sesiwn, ac unrhyw bethau ymolchi ar gyfer y gawod. Ar adegau oerach, yr argymhelliad fyddai gwisgo côt a het ar ôl nofio i leihau perygl o ddatblygu unrhyw afiechyd a cheisio cadw’n dwym.

 

Beth ddylai’r plant wneud i baratoi ar gyfer eu sesiwn? 

Pan fyddwch yn cyrraedd, y peth cyntaf i’w wneud yw dangos cardiau hamdden eich plant yn y dderbynfa. Cyn eu sesiwn dylent newid i’w dillad nofio, mynd i’r toiled, tynnu unrhyw emwaith i ffwrdd a chael cawod– cofiwch mai llawer o bobl yn mwynhau’r pwll nofio ac mae angen i’n ddefnyddwyr fod yn ofalus iawn o’u hylendid personol. Mae’n ddelfrydol, bod y plant yn gyfarwydd â’r amgylchedd a gwybod ble bydd eu gwers yn digwydd a hefyd ble byddwch chi’n aros yn ystod y wers. Ni ddylid bwyta pryd mawr cyn nofio. 

Lle ddylid gollwng y plant ar gyfer eu gwersi?

Os yw eich plant yn llai na wyth oed, bydd angen i chi drosglwyddo eich plentyn i’w hathro neu athrawes ac yna sicrhau eu casglu oddi wrthynt ar ddiwedd y wers. Os oes eisiau i’ch plentyn mynd i’r toiled yn ystod y wers, bydd angen i chi mynd â nhw i’r toiled eich hun. Mae hawl gyda phlant wyth oed ac yn fwy mynychu’r ganolfan ar ben eu hunain.

Beth os mae nhw’n dost? 

Os oes gan eich plentyn symptomau tebyg i’r ffliw fel twymyn, chwydu neu broblemau gyda’r stumog neu dreulio, ni ddylech ddod â nhw i’r dosbarth am 48 awr ar ôl i’r symptom olaf gorffen. Os yw eich plentyn yn mynd i golli nifer o wersi, gadewch i’ch cydgysylltydd nofio wybod rhag iddynt golli eu lle. 

 

Beth os oes gan fy mhlentyn anabledd?

Nod Hamdden Sir Benfro yw sicrhau bod pawb yn cael dysgu nofio, heb ystyried gallu neu anabledd. Mae ein hathrawon yn gallu dysgu nofwyr gydag anabledd trwy addasu gweithgareddau a gwersi pan fo angen. Rhaid derbyn na fydd rhai plant fyth yn gallu cyflawni holl ganlyniadau sydd eu hangen arnynt i lwyddo Ton ac, felly, bydd eithriadau’n cael eu gwneud pan fo angen er mwyn iddynt symud ymlaen twyr’r rhaglen nofio.

 

Pam fod y plant yn chwarae gemau yn eu gwersi?

Mae Fframwaith Dysgu Nofio Cymru’n hyrwyddo dull ‘dysgu trwy chwarae’. Dylai dysgu nofio fod yn hwyliog a phleserus i’r cyfranogwyr ac i’w hyfforddwyr. Trwy addasu’r gwaith sy’n cael ei gyflwyno, sut gaiff yr amgylchedd a’r lle sydd ar gael ei lenwi a’r offer sy’n cael ei ddefnyddio mewn sesiwn caiff y plant eu herio mewn ffyrdd gwahanol a thynnu eu sylw fel eu bod yn cyflawni pethau heb sylweddoli y gallent. Mae hefyd yn helpu cadw diddordeb y plant yn y wers ac yn lleihau’r amser aros ar ymyl y pwll cyn gwneud eu lled nesaf! Trwy ddefnyddio’r dull cyflwyno hwn y gobaith yw bachu plant mewn gweithgaredd dyfrol am oes.

 

Beth allaf i wneud i helpu fy mhlentyn symud ymlaen yn gyflymach?

Trwy fynd a nhw i’r pwll i ymarfer a chwarae. Hyd yn oed os nad ydych yn nofiwr cryf bydd dim ond mynd â’ch plant i’r pwll a chwarae a chael hwyl yn y dŵr yn helpu iddynt ddatblygu eu hyder a mwynhau bod yn y dŵr. Gartref, anogwch eich plant i gael bath a chwarae yn y dŵr. Anogwch hwy i wlychu eu gwallt a rhoi eu hwyneb yn y dŵr. Bydd ein hathrawon nofio’n gallu egluro beth sydd angen i’ch plant ei ymarfer a rhoi gweithgareddau i chi i neud yn y pwll.

 

Os rhaid gwisgo cap nofio?

Mae'n fuddiol gwisgo cap, gan y gallant wella profiad nofio eich plentyn yn enwedig os oes ganddo wallt hir. Mae gwallt hir yn drwm a gall wneud nofio yn fwy anodd, os yw'ch plentyn yn gweithio ar anadlu, gall ei gwneud hi'n anodd iawn iddynt gymryd anadl. Mae hefyd yn ein helpu i gadw ein pyllau yn amgylchedd glân ac iach. Nid yw'n orfodol gwaer het ar gyfer gwersi. 

Faint o amser bydd e’n cymryd i ddysgu nofio? 

Pa mor hir yw darn o linyn? Fel unrhyw sgil newydd, mae pawb yn cymryd gwahanol gyfnodau o amser i ddysgu. Os yw eich plant yn hala mwy o amser yn y pwll nofio tŷ fas o wersi, mae’n fwy tebygolbyddant ddatblygu’n gyflymach. Rydym yn dysgu gwersi am 39 wythnos y flwyddyn ac, felly, hyd yn oed os yw eich plant yn mynd bob wythnos, ddim ond 17½ o oriau o nofio byddent yn cael dros y flwyddyn!

 

Sut fydd cynnydd y plant yn cael ei asesu a’i wobrwyo? 

Mae’r plant yn cael eu hasesu ym mhob gwers, er mwyn symud ymlaen i’r don nesaf mae angen cyflawni’r holl ganlyniadau’n gymwys ac yn gyson. Wrth i’r plant symud ymlaen drwy’r rhaglen, gallwch wobrwyo eu llwyddiannau gyda bathodynnau a thystysgrifau, sydd ar gael i’w prynu o’r dderbynfa.  

 

Pam fod angen i’r plant ddysgu pob un o’r pedwar dull nofio? 

Mae pedwar dull cydnabyddedig sy’n cael eu defnyddio i symud drwy’r dŵr. Mae’n naturiol bod gwahanol bobl yn cael gwahanol ddulliau’n rhwyddach i’w dysgu nag eraill. Mae angen dysgu ac addysgu pob un o’r pedwar dull i ddangos cymhwysedd a hyder yn y dŵr.

 

Gwersi nofio drwy gyfrwng y Gymraeg

Nod pob cyfleuster yw cynnig gwersi yn ddwyieithog. Os yw'n well gennych chi i'ch plentyn dderbyn cyfarwyddyd yn Gymraeg yn unig, llenwch y ffurflen gais, a byddwn yn gwneud pob ymdrech i ddarparu ar gyfer eich cais. Sylwch y bydd angen nifer gofynnol o gyfranogwyr ar gyfer hyfywedd dosbarth, fel sy'n wir am bob gwers.