Dyma atebion defnyddiol i rai cwestiynau cyffredin:
Pa fesurau ychwanegol sydd ar waith i gadw nofwyr yn ddiogel?
Rydym wedi gwella gweithdrefnau glanhau a fydd yn sicrhau bod yr holl gyfarpar yn cael ei ddiheintio cyn iddo gael ei ddefnyddio. Caiff pob rhan o'r adeilad ei lanhau yn aml ac mae gennym systemau un ffordd ar waith. Bydd nofwyr yn cadw pellter cymdeithasol a chaiff pyllau eu rhannu i gadw grwpiau ar wahân.
Pam mai dim ond un oedolyn fydd yn cael mynd gyda phlentyn i'w wers nofio?
Mae terfyn ar nifer y bobl a ganiateir yn ein cyfleusterau ar unrhyw adeg benodol. Bydd hyn yn ein helpu i gadw at hynny.
Beth os bydd angen i mi ddod â brodyr/chwiorydd fy mhlentyn i'r ganolfan?
Gofynnwn ichi geisio sicrhau mai dim ond un oedolyn ac un plentyn sy'n dod i'r ganolfan ar unrhyw un adeg. Os na ellir osgoi hyn, cysylltwch â'ch canolfan hamdden leol i drafod y mater. Bydd angen cadw unrhyw frodyr/chwiorydd ar wahân i bobl eraill bob amser, a bydd angen iddynt aros gyda'r oedolyn cyfrifol a fydd yn gyfrifol amdanynt bob amser.
Beth fydd yn cael ei gynnwys yn y gwersi y tymor hwn?
Bydd y tymor hwn yn ymwneud a helpu nofwyr i ymgyfarwyddo â'r dŵr unwaith eto ar ôl seibiant hir o'r pwll. Byddwn yn dychwelyd at yr hanfodion, gan alluogi'r nofwyr i ailafael yn y gwersi a'u helpu i addasu i'r newidiadau i'w gwersi. Bydd angen cyfnod o amser ar nofwyr i ailgydio yn eu sgiliau er mwyn iddynt fod cystal ag yr oeddent cyn y cyfyngiadau symud ar ôl cyfnod hir i ffwrdd.
A fydd fy ngwersi ar yr un amser ag o'r blaen?
Mae ein capasiti ar gyfer y gwersi nofio wedi lleihau ac rydym wedi gorfod ystyried nifer o newidiadau. Gallai hyn olygu newidiadau o ran amser y wers, yr athro a'r diwrnod.
Beth os byddaf yn cyrraedd y wers yn hwyr?
Gwnewch eich gorau i fod yn brydlon. Os byddwch chi'n cyrraedd eich gwers yn hwyr, ni fyddwch yn gallu nofio.
Oes angen i mi wisgo masg wyneb?
Oes – bydd angen i bawb 11 oed neu'n hŷn wisgo masg wyneb pan fyddant yn yr adeilad. Dim ond wrth ymgymryd â gweithgaredd y gellir ei dynnu.
A allaf aros yn y ganolfan hamdden tra bydd fy mhlentyn yn nofio?
Caniateir i oedolion cyfrifol pob plentyn aros yn yr adeilad, gyda'r rhai sy'n goruchwylio plant o dan 8 oed yn cael blaenoriaeth i ddefnyddio'r ardaloedd gwylio, lle y bo'n bosibl. Os yw eich plentyn yn 8 oed neu'n hŷn, rydym yn eich annog i aros yn eich car os yn bosibl. Mae'n bosibl y byddwn yn gofyn i rieni aros mewn ardal ddynodedig yn y ganolfan (na fydd yn eu galluogi i weld y wers o bosibl).
Pam na allaf weld fy mhlentyn yn nofio o bosibl?
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i'ch caniatáu i wylio eich plentyn yn nofio, pan fydd cyfleusterau'n caniatáu hynny. Ni fydd hyn yn bosibl yn rhai o'n hardaloedd gwylio, gan nad oes modd cadw pellter cymdeithasol na chydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud ag ymgynnull dan do. Rydym wedi nodi ardaloedd yn ein hadeiladau lle gallwch aros tra bydd y wers yn cael ei chynnal.
Pam na fydd yr athrawon nofio yn y dŵr?
Ni fydd ein hathrawon nofio yn y dŵr yn unol â chanllawiau Corff Llywodraethu Cenedlaethol nofio, Nofio Cymru, a fydd yn ein helpu i fodloni gofynion sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol, a chadw cyfranogwyr ac athrawon yn ddiogel.
A fydd y wers yn ddiogel heb yr athro yn y dŵr?
BYDD – ac mae llawer o fanteision hefyd! Byddwn yn darparu cymhorthion hynofedd sefydlog i bawb nad ydynt yn nofio. Bydd nofwyr yn dysgu sut i fod yn annibynnol yn y dŵr, bydd athrawon yn gallu gweld y nofwyr yn glir o ochr y pwll a gellir addasu pob gweithgaredd er mwyn i'r cymhorthion hynofedd gynnal y plentyn yn lle'r athro.
Beth yw cymhorthion hynofedd sefydlog?
Cymhorthion na ellir eu tynnu'n hawdd sy'n helpu nofiwr i arnofio yw cymhorthion hynofedd sefydlog. Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio disgiau breichiau (fel yn y llun ar frig y dudalen) gan eu bod yn ddiogel a gellir tynnu'r cymorth a roddir yn raddol wrth i'r nofiwr ddatblygu. Gallwch eu prynu ar-lein os hoffech chi brynu eich rhai eich hun!
Beth yw ‘Yn Barod i Fynd i'r Traeth’ a pham y mae angen i'm plentyn wneud hyn?
Rydym wedi addasu gweithdrefnau i leihau'r amser a dreulir yn y ganolfan ac i ganiatáu amser ar gyfer glanhau rhwng sesiynau. Helpwch ni gyda hyn drwy ddod â'ch plentyn i nofio yn gwisgo ei wisg nofio o dan ei ddillad. I'w helpu i wisgo'n gyflym ar ôl y wers, rydym yn argymell gwisgo dillad llac fel gŵn gwisgo, gŵn sych neu 'onesie'.
A allaf wisgo fy mhlentyn ar ôl y wers?
Gallwch, bydd amser i wisgo ar ôl y wers. Os byddwch yn newid wrth ochr y pwll, ni ellir tynnu gwisgoedd nofio.
Pam fydd yr ystafelloedd newid yn unrhywiol o bosibl?
Mae terfyn ar nifer y bobl a ganiateir mewn ardal, felly mae'n bosibl y bydd angen i ni ddefnyddio'r holl le sydd ar gael er mwyn i nofwyr newid gan gadw pellter cymdeithasol.
Sut y gallaf gael adborth gan athro nofio fy mhlentyn?
Os bydd gennych gwestiwn i'r athro nofio, efallai y bydd amser ganddo rhwng gwersi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am gynnydd eich plentyn. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â chydlynydd nofio eich canolfan.