Partneriaeth

Byddwch yn barod i symud: Mae dosbarthiadau Les Mills yn ôl yn Hamdden Sir Benfro!

Mae ein partneriaeth anhygoel gyda Les Mills, yr arweinydd byd-eang mewn ffitrwydd grŵp, yn parhau. Mae’r cydweithrediad hwn yn golygu ein bod yn cyflwyno rhai o’r rhaglenni ymarfer corff mwyaf poblogaidd ac effeithiol yn y byd i chi – yma yn Sir Benfro! P'un a ydych chi'n ffanatig ffitrwydd, neu'n cychwyn ar eich taith, mae Les Mills yn cynnig profiad heb ei ail. Mae’r dosbarthiadau wedi'u cynllunio i’ch cadw’n llawn cymhelliant, yn symud, ac i wneud yn siŵr eich bod yn mwynhau pob eiliad.

Felly, beth sy'n gwneud rhaglenni Les Mills mor arbennig?

Amrywiaeth, egni a chanlyniadau. Mae rhaglenni Les Mills yn cael eu llunio gan arbenigwyr ffitrwydd, ac yn cael eu llywio gan wybodaeth wyddonol er mwyn sicrhau bod pob sesiwn yn cael yr effaith fwyaf posibl. Mae pob sesiwn ymarfer corff yn cynnwys ymarferion corff wedi’u coreograffu gan arbenigwyr, gyda cherddoriaeth ysbrydoledig. Mae hyn yn creu awyrgylch egni uchel sy'n eich ysgogi i ddychwelyd dro ar ôl tro.

Pam ymuno â dosbarth Les Mills?

Mae'r egni mewn dosbarth Les Mills heb ei ail. Diolch i’r hyfforddwyr ysgogol a’r gymuned o unigolion o’r un anian â chi, byddwch yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi ar bob cam o’r ffordd. P'un a ydych am wthio'ch hun i’r eithaf, ymlacio, neu roi cynnig ar rywbeth hollol newydd, mae rhaglen Les Mills ar eich cyfer chi.

Peidiwch â cholli'ch cyfle i fod yn rhan o'r chwyldro ffitrwydd hwn. Archwiliwch ein hamserlen dosbarthiadau ac archebwch eich lle heddiw. Mae eich taith ffitrwydd yn cychwyn yma – gyda Les Mills a Hamdden Sir Benfro!