Mae’n bleser gennym ni rannu rhaglen gyfyngedig anhygoel arall gan Les Mills.
Mae Les Mills yn dweud wrthym ni:
“Dyma’r sesiwn ymarfer corff doeddech chi erioed yn gwybod bod ei angen arnoch chi. Mae’n gyfuniad bywhaol o Pilates, ymarferion barre, a ioga pŵer, gyda cherddoriaeth rythmig fodern. Trwy symudiadau bach, rheoledig, byddwch chi'n tynhau ac yn cryfhau'r holl brif grwpiau cyhyrau, yn gwella aliniad ac yn cynyddu hyblygrwydd. Mae'n ysgafn ar eich cymalau, ond mae’n gwneud eich ymarfer corff yn llawer mwy dwys.”
"Mae’r dull wedi’i brofi a'i fireinio gan dîm o ffisiotherapyddion, gwyddonwyr ymarfer corff, arbenigwyr Pilates a gweithwyr maes ffitrwydd proffesiynol. Mae rhaglen LES MILLS SHAPES wedi'i chynllunio i sicrhau canlyniadau."
"Gall dim ond chwe wythnos o raglen LES MILLS SHAPES arwain at gynnydd o 35% mewn dygnwch yr abdomen, cynnydd o 26% mewn dygnwch y cefn, a gwelliant o 20% mewn cydbwysedd a sefydlogrwydd y cluniau."
“Mae rhaglen LES MILLS SHAPES yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd a phob gallu. Mae pob sesiwn ymarfer corff yn llawn opsiynau, felly gallwch chi hyfforddi ar lefel o ddwysedd sy'n gweddu i chi. Gallwch chi hefyd symud wrth eich pwysau, gan arafu a stopio pan mae angen."
“Anelwch at ddwy i dair sesiwn ymarfer corff LES MILLS SHAPES bob wythnos. Rydym yn argymell gwneud y chwe sesiwn ymarfer corff yn eu trefn gywir, gan ailadrodd pob sesiwn ychydig o weithiau cyn symud ymlaen i'r nesaf. Dros gyfnod o chwe wythnos, dylech allu cwblhau pob un ohonyn nhw."
“I gael y cyfuniad gorau, parwch eich sesiynau LES MILLS SHAPES ag ymarferion cardio. Gan fod rhaglen LES MILLS SHAPES yn blino eich cyhyrau craidd, mae'n bwysig eich bod yn osgoi codi unrhyw bwysau trwm yn syth wedyn.”
Bydd rhaglen LES MILLS SHAPES yn cael ei lansio yn ein digwydd grŵp anhygoel ddydd Sadwrn, 4 Ionawr – rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar.
Isod fe welwch chi amserlen o’r holl sesiynau sy’n cael eu rhyddhau i’ch cadw chi’n brysur tan fis Rhagfyr 2025
SHAPES SLIDER STRENGTH 1 | 06/01/25 - 02/02/25 |
SHAPES SLIDER STRENGTH 2 | 03/02/25 - 02/03/25 |
SHAPES SLIDER STRENGTH 3 | 03/03/25 - 30/03/25 |
SHAPES SLIDER STRENGTH 4 | 31/03/25 - 27/04/25 |
SHAPES SLIDER STRENGTH 5 | 28/04/25 - 25/05/25 |
SHAPES SLIDER STRENGTH 6 | 26/05/25 - 22/06/25 |
SHAPES YOGA STRENGTH 1 | 23/06/25 - 20/07/25 |
SHAPES YOGA STRENGTH 2 | 21/07/25 - 17/08/25 |
SHAPES YOGA STRENGTH 3 | 18/08/25 - 14/09/25 |
SHAPES YOGA STRENGTH 4 | 15/09/25 - 12/10/25 |
SHAPES YOGA STRENGTH 5 | 13/10/25 - 09/11/25 |
SHAPES YOGA STRENGTH 6 | 10/11/25 - 07/12/25 |