Byddwch yn barod i dorri, glynu, paentio a chreu! Sgwad Dylunio yw ein sesiwn celf a chrefft newydd sbon sy'n llawn gweithgareddau thematig i ysbrydoli dychymyg ifanc.
Mae'r themâu yn cynnwys O Dan y Môr, Gorsaf Dychymyg Pryfed, Teyrnas yr Anifeiliaid, Naws yr Haf, Anhrefn Anniben, Gofod neu Ffantasi
Perffaith ar gyfer oedran 4-10 oed, mae'r sesiwn hon yn ddelfrydol ar gyfer meddyliau chwilfrydig a dwylo prysur.
Bydd angen i riant neu warcheidwad aros yn y cyfleuster yn ystod y sesiwn gyda phlant 8 oed ac iau.
Gadewch iddyn nhw ddylunio, creu a mynd â'u campwaith adref!
| Enw'r ganolfan | Dyddiad ac amser y sesiwn |
| Crymych | Dydd Mercher 18eg Chwefror - 10.00yb - 11.00yb |
| Abergwaun | Dydd Mawrth 17eg Chwefror 10:30yb - 11:30yb |
| Hwlffordd | Dydd Llun 12:00-13:00 |
| Aberdaugleddau | |
| Penfro | Dydd Mercher 18fed Chwefror 10:30yb - 11:30yb |
| Dinbych-y-pysgod | Dydd Gwener 20fed Chwefror 1:00yp - 2:00yp |