“Daeth gweithwyr un o ganolfannau hamdden Sir Benfro i’r gwaith gyda’u sganiwr Boditrax a chawson ni’r cyfle i gael sganiau a fyddai’n rhoi pob math o wybodaeth i ni am ein corff, mwy nag yr oeddwn i wir eisiau ei wybod. Roeddwn i’n gwybod fy mod i dros bwysau gan fy mod i’n fenyw sy’n mynd drwy’r menopos ac yn fy 50au, a doeddwn i ddim am i hyn gael ei gadarnhau, felly wnes i ddim gofyn am sgan! Fodd bynnag, gwnaeth Casey, un o staff y ganolfan hamdden, sgwrsio â mi a rhoi cyngor i mi am ddeiet, a heb unrhyw bwysau fe benderfynais i’n anfoddog iawn i gael y sgan. Cadarnhaodd y sgan fy mod i dros bwysau ond rhoddodd hefyd rywfaint o newyddion da i mi – roedd dwysedd fy esgyrn, rhywbeth ro’n i’n poeni amdano (dwi’n osteopenig), yn dda; roedd fy mraster perfeddol i hefyd yn dda er gwaethaf y gorbwysau a chefais lawer mwy o wybodaeth arall. Doedd dim cymaint â hynny o ddiddordeb gen i ar y dechrau ond fe newidiais i fy meddwl yn gyfan gwbl, a thros y ddau ddiwrnod canlynol fe feddyliais i, ‘Galla i wneud rhywbeth gyda’r wybodaeth hon’. Yn dilyn hynny, collais i dros stôn mewn pwysau dros gyfnod o ddeg wythnos! Ro’n i'n teimlo gymaint yn well ac rwy’n parhau ar fy nhaith. Felly, peidiwch â digalonni ac ewch amdani. Does neb yn eich barnu. Byddwch yn cael y ffeithiau, a chi sydd i benderfynu beth i’w wneud â nhw.”