> trish and casey stood by the boditrax machine

Croeso i'n tudalen Menter Llesiant NEWYDD.

 

Croeso i'n Menter Llesiant arloesol Trish a Casey ydyn ni, a ni yw eich cydlynwyr llesiant NEWYDD.

Mae'r cynllun, sy'n cael ei lansio ar draws Sir Benfro ar y cyd â Hamdden Sir Benfro, wedi ei greu i helpu unigolion i wella eu hiechyd a'u lles, i fyw bywydau hapusach, bywiog drwy hyrwyddo mwy o weithgarwch corfforol.

Byddwn yn cynnal digwyddiadau Llesiant o amgylch Sir Benfro ac rydym ni’n llawn cyffro i gyflwyno Monitor Cyfansoddiad Corff o'r radd flaenaf sy'n chwyldroi sut rydym yn mynd i'r afael ag iechyd a lles unigolion yn y gweithle a'r gymuned. Gyda'r dechnoleg flaengar hon, rydym yn mynd y tu hwnt i fesuriadau pwysau traddodiadol i ddarparu dadansoddiad cynhwysfawr o iechyd cyffredinol unigolion, gan sicrhau eu bod yn y cyflwr gorau i ffynnu yn bersonol ac yn broffesiynol.