“Hoffwn ddweud pa mor wych yw’r fenter lles yn Neuadd y Sir. Ar ôl bod i’r sioe deithiol ym mis Hydref, lle’r oedd Casey wrth law i ateb fy holl gwestiynau, fe anogodd fi i ymuno â’r ganolfan hamdden (derbyniais y cynnig o dri mis am bris gostyngol i weld sut y byddwn i’n gwneud.) Rhoddodd Casey gyngor gwych i mi hefyd, fel ‘Gwna rywbeth wyt ti’n ei fwynhau, paid â gwneud gormod i ddechrau ac fe ddaw yn arferiad’, a dyna beth yr wyf wedi’i wneud nawr gyda fy nofio. Mae ar fy agenda wythnosol ar ddydd Llun a nos Wener. Fe wnaeth hi hefyd archebu lle i mi ar gyfer fy sesiwn gynefino yn y gampfa, ac fe wnes i fynd (yn ofnus), ond ddylwn i ddim fod wedi poeni gan fod y ddynes a ddangosodd offer y gampfa i mi yn hyfryd. Ond y peth yw, rwy heb fentro’n ôl yno eto – mae’r syniad o gampfa’n drech na mi. Fodd bynnag, mae hyn ar fin newid ar ôl y cyfarfod hyfryd ges i gyda Trish heddiw. Rhoddodd gyngor gwych i mi. Dywedodd hi wrtha i i fynd mewn a chanolbwyntio ar un darn o offer yn unig, a dyma fydda i’n ei wneud ddydd Gwener cyn nofio – pan fydda i wedi bwcio hynny ar fy ap (sy’n ap gwych – hyd yn oed i rywun sy’n hollol anobeithiol gyda thechnoleg fel fi!). Heddiw hefyd, gwnes i fentro’n ôl ar y peiriant Boditrax, a gweld bod fy arferiad nofio newydd i (dwi’n ei golli nawr ac yn teimlo’n euog os nad ydw i’n dal i fynd!) wedi gwneud gwahaniaeth i fy iechyd cyffredinol. Roedd Trish heddiw yn drylwyr iawn wrth fynd trwy fy nghanlyniadau, ac yn galonogol. Eglurodd hefyd fod yna bob amser bobl ar gael i’ch helpu yn y ganolfan hamdden. Felly, yn y bôn, yr hyn hoffwn i ei ddweud yw, os ydych chi’n bryderus ac eisiau cyngor cyfeillgar a gwirioneddol dda, ewch i un o’r diwrnodau lles sy’n cael eu cynnal gan y ganolfan hamdden, waeth beth fo’ch oedran neu gyflwr eich iechyd. Maen nhw yno i’ch helpu chi a’ch arwain chi at iechyd. Nid yn unig eich iechyd corfforol ond eich iechyd meddwl hefyd. Diolch, Trish a Casey, am roi hwb i mi fwynhau ymarfer corff. Os galla i wneud ymarfer corff, gall unrhyw un ei wneud e.”