Mae bowlio yn gamp y gall unrhyw un, o unrhyw oedran ac unrhyw allu ei mwynhau. Mae buddion bowlio yn cynnwys gwella cydsymud, cydbwysedd a lles. Gall hefyd fod yn weithgaredd cymdeithasol gwych i naill ai chwarae gyda ffrindiau, teulu neu fel rhan o glwb.

Gallwch archebu i chwarae fel grŵp, ymarfer ar eich pen eich hun neu ddod i chwarae gydag un o'r clybiau niferus sy'n defnyddio ein cyfleusterau . 

Mae'r lawnt fowlio dan do wedi'i ariannu ar y cyd gan CSP a Chlwb Bowlio Dan Do Sir Benfro, Agorwyd yn 2019. 

Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle, cysylltwch â'r ganolfan yn uniongyrchol ar 01437 775959 neu e-bostiwch: milfordhavenleisurecentre@pembrokeshire.gov.uk