Chwarae ar Sgwter a Sglefrio

Dewch i gael sgŵt gyda’r parti hwn! 

Llogwch y neuadd am awr ar gyfer parti llawn hwyl sy’n eich galluogi i ddod â beiciau, treiciau a sglefrfyrddau a mwynhau rhyddid ein neuadd chwaraeon fawr. 

Mae angen helmedau ar gyfer y gweithgaredd hwn ac rydym yn annog eich plant i wisgo padiau pen-glin a phadiau penelin er mwyn diogelwch ychwanegol. Mae’r gweithgaredd hwn yn ddelfrydol ar gyfer plant 2-9 oed.