P’un a ydych yn ymweld â’n sir hyfryd, neu eisiau rhoi cynnig ar gamp newydd, ein wal ni yw’r lle gorau yn Sir Benfro i ddringo dan do.

 

Oriau Agor y Wal Ddringo

Sylwch mai'r amseroedd isod yw ein horiau agor arferol ond gallant amrywio ychydig o wythnos i wythnos. Gellir gweld yr union oriau y mae dringo agored ar gael ar yr ap neu’r porth archebu (ar y dde ar frig y sgrin).

Dydd Llun: 6am – 9:30pm

Dydd Mawrth: 6am – 9:30pm

Dydd Mercher: 6am – 9pm

Dydd Iau: 6am – 9:30pm

Dydd Gwener: 6am – 9:30pm

Dydd Sadwrn a dydd Sul: Mae amseroedd yn amrywio o wythnos i wythnos – gwiriwch yr ap neu’r porth archebu i weld yr union oriau sydd ar gael.

 

Beth sy’n digwydd ar y wal ddringo?

Ddim yn ddringwr ond hoffech chi ddechrau? Mae gennym ystod o sesiynau dringo dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd ar gyfer pobl rhwng 3 a 103 oed! 

 

Miri Mwncïod

Pwy? Plant rhwng 3 a 7 oed

Pryd? Dydd Sadwrn 9am-10am (3-5 oed) a 10.15am-11.15am (5-7 oed)

Faint? £6.50 neu £5.50 i aelodau

Sesiynau dan arweiniad hyfforddwr sy’n canolbwyntio ar hwyl. Datblygu

cydsymud y dwylo a’r llygaid, sgiliau

echddygol a chydbwysedd trwy

weithgareddau ysgogol ar y wal ac oddi arni.

 

Mwncïod Direidus 

Pwy? Plant rhwng 8 a 12 oed

Pryd? Dydd Sadwrn 11.30am-1pm

Faint? £9.50 neu £8.10 i aelodau

Sesiynau dringo lle byddwch yn dysgu sut i ddatblygu sgiliau symud yn ogystal â dysgu sut i ddiogelu eich hun ac eraill. 

 

Y Clwb Hangout

Pwy? Unigolion rhwng 13 a 18 oed

Pryd? Dydd Gwener 6.45pm-8.15pm

Faint? £9.50 neu £8.10 i aelodau

Ein clwb dringo cymdeithasol i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n canolbwyntio ar hwyl lawn cymaint â dringo. Mae’r hyfforddwyr yn annog pobl i gymryd rhan ac yn rhoi arweiniad i helpu i gyflawni potensial.

 

Ewch i Ddringo

Pwy? 6+ (gan gynnwys oedolion)

Pryd? Dydd Gwener 4.15pm-5.15pm

Faint? £6.50 neu AM DDIM i aelodau

Sesiynau dringo dan oruchwyliaeth i bobl o bob oed o 6 oed ac yn hŷn. Cyfle gwych i unigolion a theuluoedd ymarfer ar y wal.

 

CWRS CYFLWYNIAD I DDRINGO:

Pwy? Unrhyw un 16 oed neu’n hŷn sydd eisiau dysgu dringo.

Pryd? Mae ein cwrs nesaf yn rhedeg dydd Iau 22ain Chwefror, 29ain Chwefror a 7fed Mawrth am 5:15-6:45pm neu 7:00pm-8:30pm.

Mae cyrsiau wedi'u hamserlennu pan fydd digon o alw – cofrestrwch eich diddordeb yma a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd y cwrs nesaf yn cael ei gynnal.

Faint? Cyfanswm o £25

Dros dair wythnos o sesiynau awr a hanner, bydd y cwrs hwn yn mynd â chi o ddim o beth i wych beth! Byddwn yn eich dysgu sut i wisgo offer a chlymu i mewn (i gadw eich hun yn ddiogel), sut i reoli'r belai (cadw rhywun arall yn ddiogel) a rhai technegau symud sylfaenol (edrych yn dda wrth ddysgu!). Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys y Prawf Cymhwysedd, felly ar ôl cwblhau’r cwrs byddwch yn gallu mewngofnodi gwesteion a mynychu ein wal heb oruchwyliaeth yn ystod ein horiau agored.

 

DRINGO AGORED

Pwy? Dringwyr cymwys (gweler isod am wybodaeth)

Pryd? Mae dringo agored ar gael yn ystod y rhan fwyaf o'r oriau y mae’r ganolfan hamdden ar agor. Gwiriwch yr ap neu'r porth archebu am yr amseroedd diweddaraf.

Faint? £7.10 y pen neu AM DDIM i aelodau.

Defnyddiwch y wal heb oruchwyliaeth a dewch â gwesteion sydd heb basio prawf cymhwysedd (uchafswm o ddau westai i bob dringwr cymwys). 

Mae cyfarpar wedi'i gynnwys gyda'r holl ddringo dan oruchwyliaeth a chyfarwyddyd. Yn ystod sesiynau dringo agored, mae'r costau llogi cyfarpar canlynol yn berthnasol:

Harnais – £2.80

Belai – £2.20

Helmed – £1.00

Mae croeso i ddringwyr ddod â'u cyfarpar eu hunain os yw'n well ganddynt.

 

EISOES YN GWYBOD SUT I DDRINGO?

Croeso i wal ddringo Canolfan Hamdden Hwlffordd! Cyn i ni adael i chi ddringo heb oruchwyliaeth, mae angen i ni wirio eich bod yn gallu defnyddio'r wal yn ddiogel. 

 

PRAWF CYMHWYSEDD

Pwy? Unrhyw un 14 oed neu hŷn sydd â digon o brofiad o ddringo i allu dringo'n ddiogel ar eu pen eu hunain.

Pryd? Dydd Gwener 5.30pm-6.30pm yn ystod y tymor.

Faint? £11 (£10 ar gyfer consesiynau)

Mae’r prawf cymhwysedd hwn yn asesiad cyflym o’ch sgiliau belai a chlymu cwlwm fel y gallwn fod yn hyderus wrth ganiatáu i chi ddefnyddio’r ganolfan heb fewnbwn pellach gan hyfforddwr. Mae'n cynnwys llogi’r holl offer. Ar ôl profi eich sgiliau, byddwch wedyn yn cael cofrestru hyd at ddau berson pump oed ac yn hŷn, fel gwesteion.

Ar ôl hyn, byddwch yn gallu defnyddio'r wal ddringo heb oruchwyliaeth. Gwiriwch ein porth archebu neu ap i weld amseroedd agor diweddaraf y wal.

 

YDYCH CHI'N HYFFORDDWR DRINGO?

Croeso i wal ddringo Canolfan Hamdden Hwlffordd, mae angen i chi gyflawni ambell dasg cyn y gallwch ddod â grwpiau i’r wal ddringo. Yn gyntaf bydd angen i chi fod yn ddefnyddiwr cofrestredig gyda Hamdden Sir Benfro (cofrestrwch yng nghornel dde uchaf y wefan hon). Yna e-bostiwch gopi o’ch cymhwyster dringo (CWA/CWLA/SPA/MIA/MIC/Tywysydd), tystysgrif cymorth cyntaf, yswiriant a’r ffurflen hon i [javascript protected email address]. Caniatewch ar gyfer amser gweinyddu – fel arfer byddwch yn derbyn cadarnhad drwy e-bost o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Ar ôl hyn, gallwch chi fewngofnodi eich grŵp! Hyd at 9 o bobl neu hyd at 12 gyda chynorthwyydd y mae'n rhaid iddo fod wedi'i hyfforddi o leiaf i safon Dyfarniad Wal Ddringo (CWA). Argymhellir archebu lle ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod lle ar gael.

Mae mynediad Grŵp dan Gyfarwyddyd yn costio £5.90 y pen (gan gynnwys yr hyfforddwyr).