Mae campfa newydd yn dod i Ganolfan Hamdden Hwlffordd!

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi y bydd gwaith adnewyddu mawr yn cael ei wneud yn y gampfa yng Nghanolfan Hamdden Hwlffordd cyn bo hir.

Fel rhan o'n buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau ffitrwydd ledled Sir Benfro, bydd y gampfa'n cael ei thrawsnewid gydag offer Matrix newydd sbon, gan greu amgylchedd modern ac ysbrydoledig sy’n cynnig digon o le i aelodau fwynhau.

Yn dilyn y gwaith llwyddiannus o adnewyddu campfeydd Matrix eraill yn sawl un o'n canolfannau hamdden eraill, rydym wrth ein bodd i ddod â'r prosiect nesaf i Hwlffordd.

Bydd y gampfa ar ei newydd wedd yn cynnwys:

  • Offer cardio Matrix newydd sbon
  • Peiriannau cryfder ac ymwrthiant newydd
  • Profiad gwell wrth wneud ymarfer corff ar gyfer pob lefel ffitrwydd

 

Er mwyn gwneud y gwaith adnewyddu, bydd y gampfa ar gau dros dro ar y diwrnodau canlynol:

Canolfan Hamdden Hwlffordd07/12/2026 – 11/12/2026

Rydym yn gwerthfawrogi y gall unrhyw waith fel hyn fod yn anghyfleus a hoffem ddiolch i’r aelodau am eu hamynedd tra bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.

Cofiwch fod yr holl gyfleusterau eraill ar gael, a bod eich Aelodaeth Actif yn caniatáu ichi ddefnyddio unrhyw safle arall.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni:  [javascript protected email address]