Mae gan Hamdden Sir Benfro 7 campfa.

Maent wedi'u lleoli ledled Sir Benfro, o Grymych yn y Gogledd i Ddinbych-y-pysgod yn y De.

Mae gennym naill ai offer Life Fitness neu Technogym.

Mae gan bob campfa amrywiaeth o offer cardiofasgwlaidd ac ymwrthedd.

Mae gan bob campfa ystod o offer pwysau rhydd hefyd.

Mae ein tîm cyfarwyddo wrth law i helpu gyda'ch taith, p’un a yw hyn yn ddechrau newydd sbon neu ar ôl cael seibiant, ac mae gennym ni'r sgiliau i'ch rhoi chi'n ôl ar y trywydd iawn.

I ddefnyddio ein cyfleusterau, bydd angen i chi wneud un o ddau beth:

Bydd angen i chi naill ai drefnu sesiwn ymsefydlu kickstart. Gallwch wneud hyn trwy ein ap, ar-lein neu yn eich cyfleuster dewisol.

Neu os ydych yn ymweld ein sir brydferth ni am gyfnod byr gallwch gofrestru ar gyfer ein Mynediad Campfa i Ymwelwyr

 

Gallwch archebu trwy ein ap neu ein gwefan.

Fodd bynnag, nid yw archebu lle yn hanfodol.