Dyma EGYM – Mae Dyfodol Ffitrwydd Clyfar yn Dod i Hwlffordd!
Byddwch yn barod i chwildroi eich ymarfer corff!
Mae EGYM ar agor
Mae'r system hyfforddi cryfder clyfar, arloesol hon wedi'i chynllunio i wneud ffitrwydd yn fwy effeithiol ac wedi'i bersonoli'n llwyr i chi. P'un a ydych chi'n ddechreuwr neu'n mynd i’r gampfa ers blynyddoedd, mae EGYM yn addasu i'ch gallu, yn olrhain eich cynnydd, ac yn eich helpu i gyflawni canlyniadau'n gyflymach-hyn i gyd mewn ffordd ysgogol, ryngweithiol ac effeithlon o ran amser.
Pam y Byddwch yn Dwlu ar EGYM:
✔ Ymarferion corff clyfar, personol wedi'u teilwra i'ch targedau
✔ Addasu pwysau’n awtomatig i hyfforddi’n ddiogel ac yn effeithlon
✔ Gallwch olrhain eich cynnydd yn rhwydd drwy ap EGYM
✔ Cylchedau sy'n effeithlon o ran amser - gallu ymarfer y corff cyfan mewn dim ond 30 munud!
Ymunwch â ni wrth i ni lansio'r profiad ffitrwydd newydd cyffrous hwn a byddwch ymhlith y cyntaf i roi cynnig arni! Bydd ein tîm wrth law i'ch cyflwyno i EGYM a'ch helpu i sefydlu.
Lle: Canolfan Hamdden Hwlffordd
Peidiwch â cholli cyfle—mae eich ymarfer clyfar, cryfach, a mwy effeithiol yn dechrau yma!
Atebion i’ch cwestiynau
Cwestiynau Cyffredin | Ateb |
A oes angen sesiwn sefydlu arall arnaf? | Oes, bydd hon yn sesiwn gynefino fydd yn para tua 20 munud. Gallwch ei harchebu drwy yr ap – Pembs Leisure |
A fydd hyfforddwr yn yr ystafell? | Bydd |
Sut ydw i'n archebu? | Nid oes angen archebu, dim ond dod draw, os yw lle'n caniatáu (uchafswm o 10) |
Pa mor hir yw pob cylched? | Tua 30-45 munud |
Rwy'n newydd i Hamdden Sir Benfro sut ydw i'n archebu fy sesiwn sefydlu? | Gallwch archebu sesiwn sefydlu hollgynhwysol trwy ap Pembs Leisure, trwy’r wefan neu yn y gampfa. |
Beth yw'r oriau agor? | Oriau agor y ganolfan |
Faint ymlaen llaw y caf archebu sesiwn? | Hyd at 7 diwrnod ymlaen llaw – bydd yr archebion yn agor i'r cyhoedd o ddydd Llun 24 Mawrth |