Canlyniadau'r arolwg ar ôl sesiwn sefydlu

Croeso i'n dangosfwrdd arolwg ar ôl sesiynau sefydlu campfa, lle rydym yn rhoi cipolwg craff ar brofiadau ein haelodau gwerthfawr.

Daw'r canlyniadau hyn o'n sesiynau sefydlu campfa ledled y sir. 

Cymerwch gip ar farn ein cwsmeriaid isod!

Ein sgôr gyfartalog ar gyfer holl gyfranogwyr yr arolwg yw 4.9 allan o 5 seren.

Pa mor fodlon oeddech chi ar ein sesiynau sefydlu gampfa?

Ein sgôr gyfartalog ar gyfer holl gyfranogwyr yr arolwg yw 4.9 allan o 5 seren. 

Roedd 100% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn fodlon ar ein sesiynau sefydlu campfa. Dywedodd 60% ei bod yn rhagori ar eu disgwyliadau!

A wnaeth ein sesiwn sefydlu campfa fodloni'ch disgwyliadau?

Roedd 100% o'r rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn fodlon ar ein sesiynau sefydlu campfa. Dywedodd 60% ei bod yn rhagori ar eu disgwyliadau! 

Sylwadau cwsmeriaid

“Mae Bevis yn gwneud gwaith anhygoel, yn gefnodol, yn hawdd mynd ato, yn wybodus – profiad rhagorol.”

 

“Roedd yr hyfforddwr Rhys yn dda iawn, a threuliodd lawer o amser yn dangos i mi sut roedd pob peiriant yn gweithio, a sut i addasu pob rhan ohono. Mae’n hyfforddwr da iawn.”

 

“Roedd Krista yn hollol anhygoel! Gwnaeth i mi deimlo'n ddigon hyderus i ddefnyddio'r gampfa ar fy mhen fy hun. Ychwanegodd y chwerthin i'r sesiwn sefydlu hefyd, ac roedd yn wych! Dywedodd wrthyf, hyd yn oed ar ôl y cyfnod sefydlu, y byddai yno i helpu pan fyddai yn y gampfa os bydd angen unrhyw gymorth arnaf. Mae hi’n haeddu pob clod.”

 

“Yn gyfeillgar iawn, roeddwn i'n teimlo'n gyfforddus. Siaradodd Ian â mi am bopeth yr oedd arnaf ei angen i'm cael yn ôl i'r gampfa eto, a dangosodd hefyd offer nad oeddwn yn siŵr amdano, a sut i'w ddefnyddio'n gywir. Profiad gwych.” 

Eisiau archebu eich sesiwn sefydlu campfa?

Gallwch wneud hyn drwy ein ap neu wefan, neu drwy gysylltu â'ch canolfan hamdden o ddewis.