MX4

Cyflwyno MX4 – Hyfforddiant y Lefel Nesaf ar gyfer Grwpiau Bach

Rydym yn llawn cyffro i lansio MX4, profiad hyfforddi dynamig ar gyfer grwpiau bach sy’n canolbwyntio ar gyflawni canlyniadau, sy’n dod i’n campfeydd o 1 Medi. Wedi’i gynllunio i gyfuno cymhelliant ymarfer corff mewn grŵp â sylw personol sesiwn dan arweiniad hyfforddwr, mae MX4 yn darparu sesiynau ymarfer corff cyflym ac effeithiol sy’n ddifyr o’r dechrau i’r diwedd.

Mae pob sesiwn 30 munud o hyd wedi’i llunio o amgylch pedair colofn hyfforddi hanfodol – cardio, pŵer, cryfder, a dygnwch – gan gynnig dull cytbwys o ffitrwydd sy’n gweithio i unigolion o bob gallu. P’un a ydych chi am wella’ch lefel ffitrwydd, mynd y tu hwn i drothwy, neu fwynhau ymarfer corff hwyliog â ffocws, mae gan MX4 rywbeth i gynnig i chi.

Pedair Colofn MX4

  • Cardio – Hybu iechyd eich calon, gwella capasiti’r ysgyfaint, a gwella dygnwch cardiofasgwlaidd cyffredinol trwy ymarferion sy’n heriol ond yn gyraeddadwy.
  • Pŵer – Datblygu cyflymder, ffrwydroldeb, ac ystwythder gyda symudiadau wedi’u cynllunio i wella perfformiad mewn chwaraeon a bywyd bob dydd.
  • Cryfder – Gwella’ch gallu i reoli’ch cyhyrau, eich sefydlogrwydd, a swyddogaeth ar gyfer corff cryfach a mwy abl.
  • Dygnwch – Gwella stamina a gwydnwch cyhyrol fel y gallwch fynd ymhellach, hyfforddi’n galetach, a theimlo’n fwy heini am hirach.

 

Sut mae’n gweithio

Mae MX4 yn defnyddio fformat ymarfer cylchol pan fydd cyfranogwyr yn symud trwy bedair gorsaf, pob un yn cynrychioli un o’r colofnau hyfforddi. Ym mhob gorsaf, byddwch yn cwblhau tri ymarfer wedi’u targedu:

  1. Rhannau isaf y corff – Yn canolbwyntio ar y coesau, y cluniau, y cyhyrau ffolen ar gyfer gwell pŵer a sefydlogrwydd.
  2. Rhannau uchaf y corff – Yn targedu’r breichiau, yr ysgwyddau, y frest, a’r cefn i adeiladu cryfder a diffiniad rhannau uchaf y corff.
  3. Y corff cyfan – Symudiadau swyddogaethol corff cyfan i herio cydsymudiad, cydbwysedd, a chyflyru yn gyffredinol.

Mae’r strwythur hwn yn sicrhau ymarfer corff cyflawn, corff-cyfan bob tro, tra bod y fformat dan arweiniad hyfforddwr yn eich cadw’n frwdfrydig, yn darparu arweiniad arbenigol ar dechneg, ac yn caniatáu addasiadau i gyd-fynd â’ch lefel ffitrwydd.

Pam dewis MX4?

  • Amser-effeithlon – Dim ond 30 munud i gael ymarfer corff hynod effeithiol.
  • Diddorol – Mae amrywiaeth gyson yn cadw sesiynau’n ffres ac yn heriol.
  • Cefnogol – Mae grwpiau bach yn golygu mwy o sylw ac anogaeth gan eich hyfforddwr.
  • Canolbwyntio ar ganlyniadau – Wedi’i gynllunio’n wyddonol i sicrhau’r perfformiad gorau a’r enillion ffitrwydd mwyaf posibl.

P’un a ydych chi’n newydd i’r gampfa neu’n ymwelydd rheolaidd profiadol, bydd cyfuniad MX4 o hyfforddiant arbenigol, rhaglenni strwythuredig, ac awyrgylch egnïol yn eich helpu i gyrraedd eich nodau’n gyflymach – tra’n cael hwyl a sbri.

Mae MX4 yn lansio ar 1 Medi – cadwch eich lle a phrofwch y gwahaniaeth.