Aelodaeth Actif

A ydych chi’n barod i fod yn Actif? Mae ein dewis newydd o opsiynau Aelodaeth Actif yma i helpu!

Trwy Aelodaeth Actif, mae holl safleoedd Hamdden Sir Benfro ar gael ei chi eu defnyddio heb gyfyngiad, gan olygu y gallwch ddefnyddio’r campfeydd, y pyllau nofio, y dosbarthiadau ymarfer corff grŵp a llawer mwy ar hyd a lled ein Sir. Rydym ni wedi symleiddio ein hopsiynau aelodaeth a’n prisiau i wneud pethau’n haws. Dewiswch o blith 3 aelodaeth, sef Unigolyn Actif, Aelwyd Actif a Pherson Ifanc Actif.

Os ydych chi’n 13 oed ac yn hŷn, gallai ein haelodaeth Unigolyn Actif fod yn berffaith i chi. Mae’r aelodaeth hon yn cynnwys lefel prisiau Unigolyn Actif safonol i oedolion ac amrywiaeth o brisiau â gostyngiad sy’n addas i’n hamrywiaeth o gwsmeriaid. Os ydych chi yn eich arddegau, yn 60 oed ac yn hŷn, os oes gennych anabledd neu os ydych chi’n fyfyriwr, gallwch fod yn Unigolyn Actif am bris gostyngol! Mae’r aelodaeth wych hon ar gael hefyd ar gyfradd y Pasbort i Hamdden er mwyn helpu unigolion ar incwm isel i allu defnyddio cyfleusterau hamdden. 

Mae’r Aelwyd Actif i hyd at 5 unigolyn (2 oedolyn ar y mwyaf, sy’n 20+ oed) sy’n byw yn yr un cyfeiriad. Os ydych am gadw’n iach fel teulu, mae’n bosibl mai dyma’r opsiwn gorau i chi. Gallech wneud ymarfer corff gyda’ch gilydd trwy ddod i sesiwn nofio i’r teulu neu chwarae gêm grŵp o fadminton, neu fwynhau ychydig o amser ar eich pen eich hun mewn sesiwn ioga hamddenol neu ymlacio yn y sawna.

I’n cwsmeriaid 3 i 12 oed, mae aelodaeth Person Ifanc Actif yn cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau a dosbarthiadau, o athletau i ddringo. Yn y pwll, gall Person Ifanc Actif gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n cynnwys gwersi nofio ac achub bywyd i ddechreuwyr (os bydd lleoedd ar gael). Mae nofio cyhoeddus wedi’i gynnwys hefyd i helpu gyda thaith dysgu nofio’ch plentyn. Bydd cymryd rhan mewn gwers nofio yna ymarfer y sgiliau mewn sesiynau nofio cyhoeddus bob wythnos yn helpu’ch plentyn i ddod yn ei flaen yn gynt!

Am fwy o wybodaeth ac i ymuno cliciwch yma.

Edrychwn ymlaen at ei gweld chi’n actif yn ein canolfannau hamdden!