> llun o bobl wrth ymyl y cae 3G yn Ninbych-y-pysgod

Cae 3G yn Ninbych-y-pysgod

Cae 3G newydd yn Ninbych-y-pysgod i hybu ymarfer drwy gydol y flwyddyn ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad

Mae cae 3G newydd sbon o’r radd flaenaf Sir Benfro yn Ninbych-y-pysgod AR AGOR! Mae’n cynnig cyfleuster mawr ei angen i glybiau a thimau lleol ymarfer a chwarae drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cae newydd, sydd wedi’i leoli yn Ysgol Greenhill ac yn cael ei redeg gan Ganolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod, bellach ar agor i’w ddefnyddio ac mae’n nodi cam sylweddol ymlaen o ran cefnogi chwaraeon ar lawr gwlad yn y sir.  Gwnaed y prosiect gwych hwn, gwerth £700,000, yn bosibl diolch i gyllid gan sefydliad pêl-droed Cymru a Chwaraeon Cymru, drwy fuddsoddiad Llywodraeth Cymru.

Mae gosod y cae 3G yn sicrhau y gall timau barhau i ymarfer waeth beth fo’r tywydd, gan gael gwared ar y tarfu a achosir gan amodau gwael y ddaear yn ystod misoedd y gaeaf. Mae’r arwyneb pob tywydd wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion amrediad eang o chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed a rygbi, a bydd yn cynnig lle dibynadwy i dimau o bob oed ddatblygu eu sgiliau a mwynhau’r gêm.

Cefnogi chwaraeon ar lawr gwlad

Mae cael cyfleusterau o ansawdd uchel fel hyn yn Sir Benfro yn hanfodol ar gyfer twf a chynaliadwyedd clybiau ar lawr gwlad. Drwy ddarparu lle hyfforddi modern, diogel a hygyrch, bydd y cae 3G yn helpu clybiau lleol i ddenu a chadw chwaraewyr, datblygu talent ifanc, a gwella profiad y gymuned o chwaraeon. Mae ychwanegu’r cyfleuster hwn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Hamdden Sir Benfro i hyrwyddo ffyrdd o fyw egnïol a chefnogi datblygiad chwaraeon lleol.

“Rydym wrth ein bodd yn agor y cae 3G newydd sbon hwn yn Ninbych-y-pysgod,” meddai’r Cynghorydd Rhys Sinnett, aelod y Cabinet dros Wasanaethau i Breswylwyr.“Bydd y cyfleuster hwn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i glybiau a thimau yn yr ardal, gan sicrhau bod ganddyn nhw fynediad at fannau ymarfer o ansawdd uchel drwy gydol y flwyddyn. Chwaraeon ar lawr gwlad yw sylfaen ymgysylltiad cymunedol mewn chwaraeon, ac rydym yn falch o fuddsoddi yn ei ddyfodol.”

“Mae fy nhîm a minnau wrth ein bodd yn cael rhannu’r cyfleuster gwych hwn o’r diwedd. Rydym ni, ynghyd â llawer o grwpiau, unigolion a phobl leol, wedi aros yn hir iawn am hwn felly ryn ni’n methu aros i groesawu pawb,” meddai Lisa Starkey, Rheolwr Canolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod

 

Gwybodaeth llogi

Bydd modd llogi’r cae 3G yng Nghanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod drwy gysylltu â’r ganolfan yn uniongyrchol. Anogir clybiau, timau ac unigolion i ddefnyddio’r cyfleuster newydd i ymarfer a pharatoi ar gyfer gemau.

Gyda’r datblygiad newydd hwn, mae Hamdden Sir Benfro yn parhau â’i ymrwymiad i wella cyfleoedd chwaraeon a sicrhau bod gan gymunedau fynediad at gyfleusterau o’r radd flaenaf.

Mae agor y cae 3G yn gam cyffrous ymlaen i chwaraeon yn Ninbych-y-pysgod a’r sir.

Am ragor o wybodaeth neu i logi’r cae, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod yn uniongyrchol.