"wrth i Cadwch Gymru’n Daclus gyhoeddi Gwobrau Arfordir Cymru 2025, mae 13 o draethau wedi cael statws Gwobr Arfordir Gwyrdd. Maen nhw i gyd wedi cadw’r wobr o’r llynedd ac mae llawer wedi cael yr anrhydedd ers 10 mlynedd neu fwy."
"Sir Benfro sydd â’r nifer fwyaf o draethau Gwobr Arfordir Gwyrdd yng Nghymru, gyda saith – Abereiddy, Freshwater East, Maenorbŷr, Penalun, Caerfai, Druidsone, a West Angle Bay – i gyd yn cadw eu statws."
"Yn ogystal â’r 13 safle sydd wedi derbyn Gwobr Arfordir Gwyrdd, derbyniodd 21 o draethau Cymru statws Baner Las ar gyfer 2025, sydd yn cydnabod ansawdd dŵr, cyfleusterau a darpariaethau diogelwch rhagorol, sydd yn golygu diwrnod allan diogel a llawn hwyl ar lan y môr."
Cliciwch y ddolen isod i ddarllen yr erthygl lawn:
https://keepwalestidy.cymru/cy/blog/cyhoeddi-enillwyr-gwobrau-arfordir-cymru-2025/
Mae Hamdden Sir Benfro yn falch o'r rôl rydym yn ei chwarae wrth gynnal traethau hardd Sir Benfro a'u cadw nhw'n lleoedd diogel a difyr i ymweld â nhw. Er mwyn cynnal ein traethau ar y safon uchaf, mae Hamdden Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro yn gweithio'n galed trwy'r flwyddyn. Mae’r gwaith a gwblhawyd yn cynnwys:
• Gwirio cyfarpar diogelwch
• Gwirio badbontydd
• Gwirio ffonau argyfwng
• Gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), sy'n gwarchod 13 o draethau
• Rheoli ceisiadau Baner Las ac Arfordir Glas
• Rheoli cyfyngiadau cŵn
• Gweithio mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Cliciwch isod i ddysgu popeth y mae angen i chi ei wybod cyn ymweld â'r lleoliadau hardd hyn.