Gwobrau Arfordir Cymru 2024

“Mae nifer o draethau ac ardaloedd arfordirol Sir Benfro wedi ennill gwobrau yng Ngwobrau Arfordir Cymru 2024.”

“Rhoddodd rhaglen ryngwladol enwog y Faner Las, a reolir gan y Sefydliad Addysg Amgylcheddol, wobrau i ddeg o draethau Sir Benfro eleni.”

“Yn ogystal â gwobrau’r Faner Las, enillodd saith o draethau Sir Benfro y Wobr Arfordir Glas, sy’n cydnabod amgylchedd glân, ansawdd dŵr rhagorol a harddwch naturiol.”  

Cliciwch y ddolen isod i ddarllen yr erthygl lawn:

https://www.westerntelegraph.co.uk/news/24319735.pembrokeshire-beaches-bag-17-wales-coast-awards-2024/ 

 

Mae Hamdden Sir Benfro yn falch o'r rôl rydym yn ei chwarae wrth gynnal traethau hardd Sir Benfro a'u cadw nhw'n lleoedd diogel a difyr i ymweld â nhw. Er mwyn cynnal ein traethau ar y safon uchaf, mae Hamdden Sir Benfro a Chyngor Sir Penfro yn gweithio'n galed trwy'r flwyddyn. Mae’r gwaith a gwblhawyd yn cynnwys:  

 

• Gwirio cyfarpar diogelwch  

• Gwirio badbontydd

• Gwirio ffonau argyfwng  

• Gweithio mewn partneriaeth â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub (RNLI), sy'n gwarchod 13 o draethau  

• Rheoli ceisiadau Baner Las ac Arfordir Glas  

• Rheoli cyfyngiadau cŵn  

• Gweithio mewn partneriaeth â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

 

Rydym wedi diweddaru ein tudalen ar draethau Sir Benfro yn ddiweddar. Cliciwch isod i ddysgu popeth y mae angen i chi ei wybod cyn ymweld â'r lleoliadau hardd hyn.  

 

Traethau Sir Benfro