> dosbarth

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan

Mae Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan, o dan arweinyddiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn ymestyn cymorth pwrpasol i unigolion sydd â risg uwch o ddatblygu diabetes math 2, gyda’r prif amcan o atal y cyflwr iechyd hwn rhag dechrau.

 

Mae dros 200,000 o bobl yn byw gyda diabetes, a diabetes math 2 sydd gan naw o bob deg o’r unigolion hyn. Mae diabetes yn gyflwr iechyd hirdymor difrifol sy’n aml yn gofyn am ymrwymiad gydol oes i reoli ei effeithiau. Mae’n un o achosion sylfaenol nam ar y golwg ac mae’n chwarae rhan sylweddol mewn cymhlethdodau iechyd eraill, fel methiant yr arennau, trawiad ar y galon, a strôc, er enghraifft.

 

Mae Hywel Dda yn cyflwyno rhaglen sy’n gweithio ar y cyd â’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, a Cheredigion, er mwyn cynorthwyo pobl sy’n byw gydag effeithiau diabetes.

 

Mae ffordd o fyw yn cael effaith fawr ar risg person o ddatblygu diabetes, yn enwedig diabetes math 2, ac mewn llawer o achosion, mae’n bosibl gwrthdroi effeithiau a datblygiad y clefyd. Mae ymarfer corff rheolaidd, bod yn gorfforol egnïol trwy gydol y diwrnod, yn ogystal â sicrhau bod diet iach a llesol yn cael ei fwyta, yn gonglfaen unrhyw gynllun i atal a thrin diabetes.

 

Mewn cydweithrediad â Health and Fitness Education (HFE), bydd nifer o aelodau’r Tîm Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff o fewn Hamdden Sir Benfro yn ymgymryd â chymhwyster arbenigol lefel 4 ym maes gordewdra a diabetes er mwyn rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder angenrheidiol iddynt allu cefnogi preswylwyr lleol sy’n byw gyda diabetes neu mewn perygl o ddatblygu diabetes. Mae’r rhan fwyaf o’r tîm eisoes wedi cyflawni eu Cymhwyster Lefel 3 mewn Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, ac mae llawer ohonynt hefyd wedi cwblhau’r hyfforddiant hwn gyda HFE.

 

Mae HFE yn flaenllaw yn y diwydiant o ran darparu cyrsiau hyfforddwyr ffitrwydd a chyrsiau hyfforddwyr personol ar gyfer y sector hamdden egnïol, gan arbenigo mewn rhaglenni iechyd a lles. Mae rhaglenni hyfforddiant HFE yn arwain at gymwysterau a reoleiddir gan Ofqual sy’n alinio â Safonau Proffesiynol y Sefydliad Siartredig Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol.

 

Mae HFE yn darparu’r hyfforddiant ar ran Gweithwyr Proffesiynol y Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, sy’n derbyn hyn ledled clwstwr gogleddol Sir Benfro. Dywedodd Rick Gardiner, Pennaeth Gweithrediadau HFE:

 

Rydym yn falch iawn i gefnogi Cynllun Cenedlaethol Cymru i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, yn ogystal â Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan. Edrychwn ymlaen yn fawr at yr hyfforddiant sydd o’n blaenau ac at weithio gyda’r tîm yn Hamdden Sir Benfro.

Mae Sir Benfro eisoes wedi cyflawni cyflwyniad cyntaf y rhaglen â thîm o weithwyr proffesiynol o Hywel Dda sy’n cynnwys dietegwyr a hwyluswyr iechyd a lles.

 

Mae cyffro ymhlith tîm Sir Benfro’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff i fod yn rhan o Brosiect Atal Diabetes Cymru Gyfan, gan weithio ochr yn ochr â thîm prosiect Hywel Dda i leihau effaith Diabetes Math 2 ar y gymuned a gwasanaethau lleol y GIG. Mae HFE wedi helpu i sicrhau bod ein staff wedi cael yr hyfforddiant gofynnol i allu cyflawni’r prosiect hwn ar y lefel uchaf.