Rydym yn falch iawn o gyhoeddi lansiad Y Stiwdio Hyfforddi, ein hardal hyfforddi swyddogaethol newydd sbon sy’n agor ar 13 Ebrill 2026.
Wedi’i chynllunio i gefnogi amrywiaeth eang o sesiynau ymarfer, mae’r Stiwdio Hyfforddi yn cynnig amgylchedd penodol ar gyfer cyflyru, hyfforddiant cryfder, a sesiynau symud ganolog.
Beth Sydd Tu Mewn
Mae’r ardal yn cynnwys detholiad llawn o offer hyfforddi swyddogaethol, gan gynnwys:
•“Assault Bikes”
•Peiriannau Rhwyfo
•Ergomedrau Sgio (Ski Ergs)
•Blychau Plyometrig
•Targedau Wal
•Bagiau Tywod
Gyda’i chynllun agored ac offer hyblyg, mae’r Stiwdio Hyfforddi yn ddelfrydol ar gyfer hyfforddiant cyfwng (interval), sesiynau cylched, ac ymarferion ffitrwydd swyddogaethol ar gyfer pob lefel o brofiad.
Sesiynau Agored & Dosbarthiadau ‘Functional Fit’
Bydd y Stiwdio Hyfforddi yn cynnig cyfuniad o Sesiynau Agored a dosbarthiadau grŵp ‘Functional Fit’ wedi’u hamserlennu.
Sesiynau Agored
Gall defnyddwyr gael mynediad i’r gofod yn ystod yr oriau sydd ar gael i gwblhau eu hyfforddiant eu hunain yn annibynnol.
Dosbarthiadau ‘Functional Fit’
Sesiynau dan arweiniad hyfforddwr sy’n canolbwyntio ar symudiadau swyddogaethol, cryfder a chyflyru.
Anwythiad a defnyddio'r ardal yn ddiogel.
Er ein bod yn parhau i annog anwythiad i’r gampfa ar gyfer cwsmeriaid newydd, rydym yn cydnabod nad yw bob amser yn ymarferol i bob defnyddiwr derbyn sesiwn anwytho bwrpasol ar gyfer y gofod newydd hwn.
I gefnogi defnydd diogel a hyderus o’r Stiwdio Hyfforddi, byddwn yn gweithredu nifer o fesurau, gan gynnwys:
•Canllawiau diogelwch clir yn yr ystafell
•Arwyddion cyfarwyddiadau ar gyfer darnau allweddol o offer
•Sesiynau cyfeiriadu grŵp – yn cynnig cyflwyniad cyflym i aelodau presennol i’r ardal a’r offer
Mae’r mesurau hyn yn sicrhau bod gan bob defnyddiwr fynediad at yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i hyfforddi’n ddiogel, p’un a ydynt wedi cwblhau anwythiad penodol ar gyfer y ardal hwn neu beidio.
Mae’r ardal gyffrous hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu cyfleusterau o ansawdd uchel sy’n cefnogi ffitrwydd, lles ac amrywiaeth hyfforddi.
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau i ’r Stiwdio Hyfforddi o 13 Ebrill.