> les mills logo with light blue background

Strafagansa Grŵp

Strafagansa Grŵp 

 

Beth am gicdanio 2024 gyda Hamdden Sir Benfro! Ymunwch â’n Strafagansa Grŵp AM DDIM ddydd Sadwrn 6 Ionawr ym Mhentref Chwaraeon Sir Benfro. Bydd Hamdden Sir Benfro’n arddangos ystod o sesiynau ymarfer grŵp rhwng 8am a 12:30pm. Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly peidiwch â cholli’r digwyddiad unigryw hwn!

 

50 o leoedd

6 hyfforddwr

Rhaglenni ffitrwydd o’r radd flaenaf

Yn agored i bawb dros 13 oed (dros 16 oed ar gyfer Rhaglenni Cryfder)

Opsiynau ar gyfer POB gallu – gwnewch gymaint neu gyn lleied ag y dymunwch!

Archebwch eich lle ar unwaith, drwy ap Hamdden Sir Benfro, ar ein gwefan, neu ewch i’ch cyfleuster Hamdden Sir Benfro agosaf.

 

Dewch i ddysgu rhagor am yr hyn sydd ar gael gennym, ac i gwrdd â’n timau!

Lawrlwythwch y app

Cliciwch isod i lawrlwytho'r ap a chyrchu ein gwasanaethau Digidol gartref